Savita Shanbhag, Meddyg Teulu Arweiniol Canser, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Cyflwyniad
Mae oedi wrth wneud diagnosis o ganser y prostad, y canser gwrywaidd mwyaf cyffredin yn y DU, yn cael effaith negyddol ar ganlyniadau ac ansawdd bywyd cleifion.
Er gwaethaf targedau, mae amseroedd aros diagnostig yng Nghymru yn hirach na'r amserlen 28 diwrnod a argymhellir. Gan gydnabod effaith negyddol amseroedd aros hir, lansiodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Prifysgol Abertawe, a Rhaglen TET Cancer Research UK lwybr PROSTAD ym mis Mehefin 2023 i wella diagnosis o ganser y prostad yng Ngorllewin Cymru.
Dulliau
Roedd ymgysylltu â rhanddeiliaid, gan gynnwys gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a grwpiau eiriolaeth cleifion, yn hanfodol i weithredu'r cynllun yn llwyddiannus. Roedd cydweithio â Phrifysgol Abertawe a Cancer Research UK yn darparu cymorth ac adnoddau academaidd ar gyfer gwerthuso a dilysu.
Gwnaethom ddefnyddio'r fframwaith ‘Cynllunio Gwneud Astudio Gweithredu’ (PDSA) ar gyfer llwybr PROSTAD, gyda pherson penodedig i lywio’r broses ar hyd y llwybr trin canser yn gwella’r cyfathrebu â chleifion. Defnyddiodd arbenigwr LEAN Sigma o Brifysgol Abertawe broses mapio lonydd nofio i nodi holl bwyntiau cyffwrdd taith y claf er mwyn gweld ble roedd y pwyntiau aneffeithlon a lleihau amseroedd aros. Casglwyd data meintiol ac adborth ansoddol trwy gydol y cylch.
Canlyniadau
"Mae cyflymder ac effeithlonrwydd y cyfan wedi creu argraff fawr arnaf."
- Gostyngodd amser atgyfeirio at MRI gan feddygon teulu o 22 diwrnod i 14 diwrnod.
- Gostyngodd amser adrodd MRI o 8 diwrnod i 1 diwrnod.
- Mae adolygiad clinigol a phenderfyniad biopsi bellach yn digwydd 1 diwrnod ar ôl MRI.
- Roedd yn well gan gleifion dderbyn canlyniadau MRI a thrafod gofynion biopsi dros y ffôn.
- Mae’r gwelliannau’n golygu gallu cael ymchwiliadau radiolegol a phenderfyniadau biopsi yn gyflymach.
- Mae adborth cadarnhaol gan gleifion yn amlygu pwysigrwydd diagnosis prydlon.
- Dywedodd staff wroleg fod gwell effeithlonrwydd o ran llif gwaith.
Dysgu
- Roedd ymgysylltu â rhanddeiliaid a chydweithio yn hanfodol. Roedd ymgorffori safbwyntiau amrywiol yn gwella dealltwriaeth o ran gwneud diagnosis o ganser y prostad.
- Roedd arweinyddiaeth yn hanfodol ar gyfer gyrru a chynnal newid, gyda chefnogaeth barhaus yn angenrheidiol ar gyfer gwelliant parhaus.
- Mae cyfathrebu clir yn allweddol a bydd yn parhau ac yn derbyn sylw.
- Roedd rheoli a llywodraethu prosiectau cadarn yn effeithiol, ond mae angen cyfathrebu a phwyntiau gwirio amlach.
- Roedd gwerthuso yn defnyddio mesurau meintiol ac ansoddol, gan ddangos cynnydd ond hefyd yn nodi meysydd i'w gwella ymhellach, yn enwedig o ran dyrannu adnoddau a rhwystrau systemig.
Beth nesaf?
- Parhau i fireinio a gwneud y gorau o'r llwybr yn seiliedig ar adborth parhaus a data gwerthuso.
- Lledaenu’r hyn a ddysgwyd a’r arferion gorau i sefydliadau GIG eraill Cymru a'r DU.
- Cyflwyno ein canfyddiadau i'r Grŵp Safle Clinigol Wroleg
- Parhau i fonitro a gwerthuso effaith llwybr PROSTAD, o fewn ein gwasanaeth ein hunain.
Cysylltiadau
savita.shanbhag2@wales.nhs.uk