Mae Scoliosis Idiopathig y Glasoed (AIS) yn effeithio ar 2-3% o bobl ifanc, gan arwain at grymedd difrifol yn y cefn sy’n gofyn am lawdriniaeth gymhleth. Mae’r risgiau yn ystod ac ar ôl llawdriniaeth yn cynnwys gwaedu a phroblemau niwrolegol, gan olygu bod angen gofal ôl-driniaethol lefel uchel a ddarparwyd yn flaenorol gan Unedau Dibyniaeth Uchel Pediatrig (PHDU).
Arweiniodd cynnydd yn y galw am unedau PHDU at ganslo llawer o lawdriniaethau gan effeithio ar restrau aros, iechyd meddwl cleifion, ac achosi costau uchel. Er mwyn mynd i'r afael â hyn, bu'r tîm yn ystyried sefydlu ardal uchel yn y Ward Llawfeddygol Bediatreg, gan feincnodi gydag ymddiriedolaethau eraill wrth chwilio am ddatrysiadau.
Ynghyd â llawfeddygon asgwrn cefn ymgynghorol, y tîm meddygol pediatrig, anesthetyddion, a thîm nyrsio Ward Gwdihŵ, fe wnaethom sefydlu 'Prosiect Gwas y Neidr,' gan greu ardal gofal lawfeddygol uchel ar Ward Gwdihŵ. Roedd hyn yn cynnwys sefydlu ardal gyda phedwar gwely ar gyfer arsylwi agos a monitro rhydwelïol ac uwchsgilio staff gyda chymorth ein tîm addysg ymarfer. Roedd y prosiect yn gofyn am hyfforddiant staff helaeth, diwrnodau addysgol ac asesiadau cymwysedd.
Cynhaliodd yr uwch dîm nyrsio asesiadau risg i sicrhau gofal safon aur, tra bod rheolwr Ward Gwdihŵ yn gyfrifol am reoli staff a gofynion gwasanaeth. Roedd cydweithio â thimau asgwrn cefn, pediatreg ac anesthetig yn hanfodol ar gyfer datblygu sianeli cyfathrebu a llwybrau diogelwch.
Ar y cyd, creodd pob tîm fframwaith manwl a derbyniwyd y cleifion cyntaf i Fae Gwas y Neidr ym mis Mehefin 2023. Sefydlwyd sianeli cyfathrebu, cynlluniau uwchgyfeirio, gweithdrefnau llawdriniaeth a llwybrau llif cleifion. Nodwyd anghenion hyfforddi, a chafodd nyrsys eu hyfforddi i ddarparu'r gofal arbenigol oedd ei angen.
Roedd gofal ar gyfer cleifion scoliosis, oedd yn cael ei roi yn flaenorol mewn Uned Dibyniaeth Uchel Bediatreg, bellach yn cael ei roi gan nyrsys medrus iawn ar Ward Gwdihŵ, gan gynnwys monitro pwysedd gwaed mewnwthiol trwy linellau rhydwelïol. Cafodd y gofal ei oruchwylio gan feddygon asgwrn cefn, anaesthetig a phediatrig.