Roedd hi'n amhosibl i staff wybod pa iaith a ffefrir gan gleifion ac roedd hyn yn aml yn achosi dryswch, yn enwedig ymhlith ymwelwyr achlysurol â wardiau clinigol fel ffisiotherapyddion neu fferyllwyr. Roedd hyn yn arwain at ddefnydd anfwriadol o'r Saesneg, yn groes i'r egwyddor 'cynnig rhagweithiol'. I fynd i'r afael â hyn, gwnaethom gyflwyno magnetau oren i nodi cleifion a staff sy'n siarad Cymraeg, gan wella cyfathrebu a pharchu dewisiadau iaith.
Mae gweithredu’r Cynllun Dewis Iaith yn syml. Gyda chaniatâd cleifion, gosodir magnet oren ar y bwrdd gwyn wrth ymyl eu gwely i ddynodi eu bod yn ffafrio cyfathrebu yn Gymraeg.
Mae byrddau staff hefyd yn arddangos magnetau oren i ddangos pa aelodau sy'n gallu siarad Cymraeg, gan sicrhau bod staff yn ymwybodol o anghenion ieithyddol cleifion ac yn gallu eu diwallu. Mae'r wybodaeth hon yn helpu i gynllunio a darparu gwasanaethau dwyieithog. Mae 'Ffurflen Archwilio Misol' yn helpu i gofnodi data am ddewisiadau iaith cleifion a staff, ac anogir Rheolwyr Ward i gasglu a chofnodi'r wybodaeth hon bob mis.
Cafodd Cynllun Dewis Iaith, sy'n blaenoriaethu gwasanaethau cyfrwng Cymraeg i gleifion dementia, ei dreialu gyntaf ar Ward Glaslyn yn Ysbyty Gwynedd, Bangor. Yn dilyn ei lwyddiant a'r adborth cadarnhaol a dderbyniwyd, ehangwyd y cynllun i Ward Prysor ar gyfer cleifion strôc ac yna i wardiau eraill ar draws gogledd Cymru, gan gynnwys ysbytai cymunedol ac Ysbyty Glan Clwyd. Erbyn diwedd 2019, gweithredwyd y cynllun ar holl safleoedd clinigol y Bwrdd Iechyd, gan gynnwys Ysbyty Maelor Wrecsam