Beverly Davies, Rheolwr Partneriaeth Strategol a Chynhwysiant, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Cyflwyniad
Yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIPHDd), mae gan tua 15,671 o bobl nam ar eu golwg, ac mae gan tua 85,864 nam ar eu clyw, sy'n golygu bod colled synhwyraidd yn gyffredin ymhlith defnyddwyr y gwasanaeth iechyd. Canfu archwiliad yn 2023 mai dim ond 7 claf oedd wedi eu nodi fel rhai â cholled synhwyraidd yn System Gweinyddu Cleifion Cymru (WPAS).
Datgelodd arolwg staff, a gwblhawyd gan 155 o aelodau, anawsterau wrth gofnodi gwybodaeth am golled synhwyraidd oherwydd diffyg dynodwyr penodol yn system WPAS. Roedd pwysau gweithio a newidiadau staffio mewn Adrannau Cleifion Allanol yn arwain at fethu cyfleoedd i ofyn i gleifion am eu dewisiadau cyfathrebu. Awgrymodd staff y byddai dull safonedig yn fuddiol.
Dulliau
- Sefydlwyd gweithgor gyda chylch eang o randdeiliaid yn cymryd rhan.
- Adolygwyd data am brofiad staff a chleifion a nifer y cleifion sydd â nodiadau allweddol ynghylch Colled Synhwyraidd ar WPAS.
- Defnyddiwyd dulliau Gwella Ansawdd (Diagram Asgwrn Pysgodyn, Dadansoddiad SWOT, Dadansoddi Rhanddeiliaid) i nodi lle gellid gwella.
- Rhoddwyd syniadau newid amrywiol ar waith:
- Gofynnwyd i staff gwblhau'r pecyn e-ddysgu am golled synhwyraidd – 83% wedi gwneud
- Cynhaliwyd peilot o hyfforddiant sefyllfa Colled Synhwyraidd, gan gynnwys:
- Creu taflenni gwybodaeth print bras a Hawdd eu Deall.
- Efelychiad Nam ar y Golwg.
- Gwybodaeth i gleifion EIDO mewn fformat darllen yn uchel.
- Defnyddio Ap Insight ar gyfer dehonglwyr BSL.
- Defnyddio offer fel dolenni clyw a chwyddwyr sain.
- Rhannu gwelliannau drwy bosteri ‘Gofynnon ni, dwedoch chi, gwnaethon ni’, addasu byrddau melyn gyda thestun du a datblygu poster 'Allwn ni helpu?' i annog staff i ofyn am eu ffurfiau cyfathrebu dewisol a gweithredu ar hynny.
Canlyniadau / Dysgu
- Roedd y syniadau newid a roddwyd ar waith wedi gwella profiadau cleifion a staff.
- Staff yn dangos ymrwymiad i ddysgu a chydweithio ar gyfer darparu gwasanaeth teg.
- Staff yn deall yr angen i wella profiadau cleifion sydd â cholled synhwyraidd.
- Mae ymwybyddiaeth o farcwyr ar gofnodion cleifion, ar bapur ac ar-lein, a’r defnydd ohonynt, yn hanfodol ar gyfer diwallu anghenion cyfathrebu cleifion.
- Nid oes cynnydd sylweddol mewn cofnodion am golled synhwyraidd ar WPAS eto, ond mae cynllun i ddatblygu canllawiau i staff ac ymwybyddiaeth o nodweddion WPAS yn gyflawniad allweddol.
Beth nesaf?
- Rhaeadru syniadau ynghylch newid i bob Adran Cleifion Allanol er mwyn sicrhau hygyrchedd.
- Mabwysiadu ac arddangos y poster 'Allwn ni helpu?' isel ei gost ar draws BIPHDd.
- Datblygu canllawiau staff a chyflwyno ymgyrch ymwybyddiaeth o'r cyfleuster Colled Synhwyraidd ar WPAS.
- Cynyddu faint o’r dulliau cyfathrebu dewisol sy’n cael eu nodi ar gyfer cleifion â cholled synhwyraidd o 50% erbyn 31/12/2024.
- Sicrhau bod 95% o nyrsys Adrannau Cleifion Allanol wedi cwblhau e-ddysgu ar golled synhwyraidd erbyn 31/07/2024.
- Ehangu’r ffocws i gynnwys anghenion cyfathrebu eraill, megis iaith dramor a deunydd hawdd ei ddarllen, yn gydnaws â Deddf Cydraddoldeb (2010), i atal gwahaniaethu neu anfantais i gleifion â nodweddion gwarchodedig.
Cysylltiadau
beverly.davies@wales.nhs.uk