Esther Munthali, Nyrs Datblygu Ymarfer, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Cyflwyniad
Cafwyd adroddiadau gan ddarparwyr gofal bod hyfforddiant gan y Contractwr Bwydo Enteral yn y Cartref (HEF) yn annigonol, yn rhy fyr ac yn rhy gyffredinol, ac nad oedd yr hyfforddiant yn llwyr fodloni anghenion dysgu unigol, anghenion unigryw a newidiol cleifion nac yn deall cyfyngiadau'r lleoliad gofal. Nododd darparwyr gofal y blaenoriaethau canlynol:
- hyfforddiant gwell ar roi meddyginiaeth
- hyfforddiant wedi’i deilwra i unigolion
- gwelliannau i drefniadau cadw cofnodion
- cynllunio gofal ac uwchgyfeirio
- hyfforddiant ar elfennau gofal newydd fel tiwbiau yn dadleoli.
Mewn ymateb, datblygodd Nyrs Datblygu Ymarfer (PDN) raglen hyfforddi cymhwysedd gyda'r nod o gael cymeradwyaeth lawn i dri darparwr gwasanaeth blaenoriaeth o fewn 12 mis.
Dulliau
- Gan ddefnyddio PDSA, datblygu raglen hyfforddi gyda ffocws ar gleifion ag anableddau dysgu, oherwydd bod galw mawr.
- Defnyddio’r fframwaith hyfforddi seiliedig ar gymhwysedd ar gyfer bwydo enteral yn y cartref gan ofalwyr cyflogedig fel y sylfaen.
- Hyfforddi nyrs PDN i asesu a dirprwyo tasgau’n ymwneud â’r tiwb enteral.
- Cydweithio â rhanddeiliaid i deilwra'r gwasanaeth ar gyfer lleoliadau penodol ac anghenion cleifion.
- Strwythuro hyfforddiant gyda sesiwn theori ac asesiad manikin, ac yna asesiadau cleifion.
Canlyniadau
- Bellach mae gan bob lleoliad â gofalwr sydd wedi cael asesiad risg becyn dadleoli tiwb wrth law.
- Gall gofalwyr adnabod y risg o sepsis.
- Mae prosesau uwchgyfeirio yn gliriach i staff, yn enwedig gyda'r defnydd o senarios gofal yn yr ystafell ddosbarth a lleoliadau gofal.
- Mae dogfennau’r tîm HEF wedi’u hailgynllunio yn sgil adborth gan ofalwyr, gan eu gwneud yn offeryn dysgu cadarn.
- Mae perthnasoedd cryf a dibynadwy gyda lleoliadau gofal yn golygu bod modd tynnu sylw a mynd i'r afael â phryderon yn gyfforddus.
Dysgu
- Datblygwyd llwybrau gwahanol ar gyfer asesu cymhwysedd staff profiadol a gofalwyr newydd yn sgil amharodrwydd cychwynnol.
- Roedd sesiynau ystafell ddosbarth yn cynnig amgylchedd heb unrhyw ymyriadau, gan feithrin ymarfer myfyriol a dysgu heb feirniadaeth.
- Nododd asesiadau risg y cleifion oedd yn risg uchel gan amlygu’r angen am gymorth cyfannol, yn enwedig mewn lleoliadau sy’n brin o staff.
- Nodwyd bod hyfforddiant tiwb blaenorol yn gyffredinol ac yn aml yn annigonol, oedd yn creu dryswch a dogfennu gwael.
- Canfuwyd bod dibyniaeth ar reolwyr ar gyfer datrys problemau, gan amlygu'r angen am adnoddau cyfeirio hawdd eu cael i ofalwyr.
Beth nesaf?
- Cydweithio â chontractwyr HEF i gael hyfforddiant cymhwysedd ac adnoddau dysgu effeithlon.
- Datblygu proses gasglu data effeithlon i fonitro effaith y rôl PDN ac ehangu'r tîm PDN.
- Creu safonau ac adnoddau i Gymru gyfan
- Cydweithio â dietegwyr anabledd dysgu i sicrhau pontio di-dor o bediatreg i ofal oedolion.
- Cydweithio gyda byrddau iechyd i gasglu data sy'n dangos effaith y rhaglen hyfforddi cymwysedd.
Cysylltiadau
esther.munthali@wales.nhs.uk