Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr Arweinyddiaeth GIG Cymru

Cefnogaeth genedlaethol i wella ansawdd gwasanaethau gofal iechyd a chanlyniadau i'r boblogaeth (Gweithrediaeth y GIG)

Roedd y rhaglen yn canolbwyntio ar bedair elfen allweddol ar gyfer agwedd gyfannol, sy’n ystyried y system gyfan: ymgorffori Safonau Ansawdd Iechyd a Gofal, datblygu System Rheoli Ansawdd, gwneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar ansawdd, ac adrodd ar ansawdd.

Ymgorffori Gofal Iechyd sy'n Seiliedig ar Werth yng Nghymru ac ysbrydoli newid ar draws y byd (Gweithrediaeth y GIG)

Mae Canolfan WViHC yn datblygu’r arfer gorau ac adnoddau, sy’n cynnwys Mesurau Canlyniad a Adroddir gan Glaf (PROM), Model Gweithredu Safonol (PSOM), casglu data, darparu sgiliau a chapasiti mewn meysydd allweddol a lleihau amrywiadau na ellir eu cyfiawnhau mewn gwasanaethau.

Gwneud y Mwyaf o Arweinyddiaeth ar Bob Lefel (BIPAB)

Cynigiwyd cyfleoedd arweinyddiaeth ar draws grwpiau staff ac ymhlith partneriaid sy’n gymheiriaid i ddechrau datblygu gwasanaethau.