Emma Louise Sinnott, Uwch Therapydd Arbenigol Lleferydd ac Iaith, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Cyflwyniad
Sefydlwyd Tîm Rhyddhau Cynnar â Chymorth ar ôl Strôc (ESD) a Thîm Anaf i'r Ymennydd yng Ngwent yn 2016 fel rhan o'r Gwasanaeth Adsefydlu Niwrolegol Cymunedol (CNRS) i fynd i'r afael â'r diffyg cymorth arbenigol i adsefydlu wedi strôc a chefnogaeth i anafiadau cymedrol i'r ymennydd mewn lleoliadau cymunedol.
Gan ddefnyddio data o wahanol raglenni a chanllawiau, daeth yn amlwg bod cleifion wedi elwa mwy o adsefydlu yn y cartref unwaith roedden nhw’n sefydlog yn feddygol. Roedd adborth gan ddata Mesurau Profiad a Adroddir gan Glaf (PREM) a straeon staff yn pwysleisio'r angen am gyfraniad y claf a gwasanaethau sy’n ateb anghenion cleifion yn briodol.
Ysgogodd y pandemig yn 2020 newid mewn dulliau gweithio, gyda thimau arwain yn manteisio ar y cyfle i fabwysiadu dulliau deinamig a oedd yn gweithio dros ddefnyddwyr gwasanaeth, cyfoedion a staff, gan feithrin mwy o gyfleoedd arwain o fewn y tîm.
Dulliau
Yn dilyn hyfforddiant Nodau Gofal, mabwysiadwyd dull o weithio sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, gan rymuso defnyddwyr gwasanaeth a staff a’r defnydd o arferion sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
Sefydlwyd nodau craidd ar gyfer y Gwasanaeth Adsefydlu Niwrolegol Cymunedol gyda mewnbwn gan staff (grwpiau ffocws, diwrnodau cwrdd i ffwrdd, adborth ad hoc), partneriaid sy’n gymheiriaid (grwpiau ffocws, diwrnodau cwrdd i ffwrdd, adborth ad hoc), a defnyddwyr gwasanaeth (Mesurau Profiad a Adroddir gan Glaf). Cynigiwyd cyfleoedd arweinyddiaeth ar draws grwpiau staff ac ymhlith partneriaid sy’n gymheiriaid i ddechrau datblygu gwasanaethau.
Canlyniadau
- Perthynas gefnogol, gydweithredol o fewn ac ar draws gwasanaethau.
- Mae diwylliant tîm yn meithrin arweinyddiaeth ar bob lefel.
- Cryn ymgysylltiad, ymrwymiad a rhyddid creadigol ymhlith aelodau'r tîm.
- Adborth cadarnhaol gan staff. Cyd-gynhyrchu gyda phartneriaid sy’n gymheiriaid yn gwella ymyriadau a phrosiectau cymunedol.
- Mabwysiadu model gofal iechyd darbodus sy'n seiliedig ar werth
- Mae pum ffrwd waith wedi plethu gyda’i gilydd yn darparu gwasanaeth cyfannol
- Cyfraddau cadw staff uchel (8% o drosiant yn 2023) a salwch isel (5%) oherwydd amgylchedd gwaith sy’n eu meithrin.
Dysgu
- Rhoi’r 'pam' cyn y 'sut' a 'beth'. Cymryd amser i ddatblygu canlyniadau clir sy'n canolbwyntio ar y canlyniadau a fwriadwyd, gan ddefnyddio Nodau Gofal i flaenoriaethu canlyniadau dros fewnbynnau ac allbynnau.
- Defnyddio ystod lawn o adnoddau, gan werthfawrogi cyfraniadau gan holl aelodau'r tîm a’r partneriaid sy’n gymheiriaid.
- Grymuso staff i ddod yn arweinwyr, gan eu hintegreiddio i brosesau datblygu gwasanaethau mewn ffyrdd hylaw o ddydd i ddydd.
- Parhau i fod yn agored i ddysgu ac i safbwyntiau newydd.
Beth nesaf?
- Trawsnewid y model cyflenwi, dan arweiniad staff Band 6-7.
- Archwilio effaith y Fframwaith Nodau Gofal ar lesiant, y defnydd o adnoddau, a gofal iechyd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy’n rhoi pwyslais ar werth.
- Gwerthuso’r effaith gymdeithasol a llesiannol gan ddefnyddio'r dull Newid Mwyaf Sylweddol.
- Ehangu Coleg Adfer i gyflyrau niwrolegol eraill a chydweithio â byrddau iechyd eraill.
- Datblygu Partneriaethau â Chymheiriaid.
Cysylltiadau
emma.louisesinnott@wales.nhs.uk