Daeth Deddf Ansawdd ac Ymgysylltu 2020 yn statudol ym mis Ebrill 2023 a'i nod yw gwella ansawdd a chanlyniadau gofal iechyd mewn cyfnod ôl-COVID sy’n heriol yn ariannol. Datblygwyd canllawiau statudol a gyd-gynhyrchwyd gyda sefydliadau'r GIG a rhanddeiliaid, gan arwain at greu map ffordd ar gyfer gweithredoedd y GIG.
Gofynnodd Llywodraeth Cymru am ddiweddariadau rheolaidd ar gynnydd y map, gan ddatgelu’r angen am gymorth i ddeall y rhwymedigaeth i sicrhau ansawdd. Cafodd y Rhaglen Ansawdd a Diogelwch genedlaethol y dasg o gynorthwyo GIG Cymru i ymgorffori’r ddyletswydd. Bu sefydliadau'r GIG yn hunan-asesu eu cynnydd yn erbyn cerrig milltir mewn themâu fel safonau ansawdd, rheoli, gwneud penderfyniadau, adrodd, comisiynu, cynnal, hyfforddiant, cyfathrebu, arweinyddiaeth a llywodraethu, gyda'r rhan fwyaf ar y cam "Cynllunio a threfnu adnoddau."
Roedd y rhaglen yn canolbwyntio ar bedair elfen allweddol ar gyfer agwedd gyfannol, sy’n ystyried y system gyfan: ymgorffori Safonau Ansawdd Iechyd a Gofal, datblygu System Rheoli Ansawdd, gwneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar ansawdd, ac adrodd ar ansawdd.
Gyda mewnbwn gan randdeiliaid, datblygwyd safle SharePoint i rannu offer ac adnoddau ymarferol. Defnyddiwyd dulliau rheoli prosiect ystwyth, yn cynnwys camau cynllunio, dylunio, datblygu, profi, defnyddio ac adolygu i gefnogi gwaith hyblyg a chydweithredol.
Ar ôl adolygu’r arferion a’r offer presennol mewn trefniadau Asesu Effaith ar Ansawdd, aeth y Rhaglen ymlaen i ddatblygu a phrofi offeryn QIA i Gymru gyfan, gan wneud gwelliannau dro ar ôl tro yn seiliedig ar adborth.