Neidio i'r prif gynnwy

Ymgorffori Gofal Iechyd sy'n Seiliedig ar Werth yng Nghymru ac ysbrydoli newid ar draws y byd

Sarah Puntoni, Rheolwr Rhaglen, Gweithrediaeth GIG Cymru

Cyflwyniad

Mae polisi Llywodraeth Cymru’n pwysleisio'r angen i gynnwys cleifion mewn penderfyniadau gofal gydag egwyddorion gofal iechyd darbodus a Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth (VBHC) yn sail i’r gwaith o gynllunio a darparu'r gwasanaethau hyn. Roedd angen newid diwylliannol a thrawsnewidiol sylweddol ar Weithredu Gofal Iechyd sy'n Seiliedig ar Werth i gefnogi darpariaeth Gofal Iechyd Darbodus.

Mae'r dull hwn yn sail i'r Fframwaith Clinigol Cenedlaethol, gan ganolbwyntio ar gyd-gynhyrchu, tegwch, ymyrraeth effeithiol (pan fo angen), a lleihau amrywiadau na ellir eu cyfiawnhau. Gall Gofal Iechyd Darbodus roi sylfaen gref ar gyfer gwella gofal iechyd yng Nghymru a bydd dull o ddarparu gofal iechyd sy'n Seiliedig ar Werth, sy’n cael ei ysgogi’n genedlaethol ac sy’n gyson ym mhobman, yn cynorthwyo i wneud Gofal Iechyd Darbodus yn realiti. 


Dulliau

Bu Dr Sally Lewis yn gyfrifol am gychwyn Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (BIPAB) yn 2014. Fe gafodd gefnogaeth genedlaethol a chafodd Canolfan Gwerth mewn Iechyd Cymru (WViHC) ei chreu. Lansiwyd Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth (VBHC) yn 2019, oedd yn cynnwys holl ymddiriedolaethau a byrddau iechyd GIG Cymru.

Mae Canolfan WViHC yn datblygu’r arfer gorau ac adnoddau, sy’n cynnwys Mesurau Canlyniad a Adroddir gan Glaf (PROM), Model Gweithredu Safonol (PSOM), casglu data, darparu sgiliau a chapasiti mewn meysydd allweddol a lleihau amrywiadau na ellir eu cyfiawnhau mewn gwasanaethau.

Mae hefyd yn ei gwneud yn haws gwneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth trwy Gylchlythyron Iechyd Cymru ac yn hyrwyddo penderfyniadau ar sail data ar bob lefel o’r system. Roedd y dulliau a ddefnyddiwyd yn cynnwys Gwella Ansawdd (QI), cylchoedd PDSA, a Fframweithiau Gwerthuso a Gwireddu Buddion.


Canlyniadau / Dysgu

  • Roedd gwaith cychwynnol yn BIPAB yn profi methodolegau VBHC ar staff, systemau a chleifion, gan ganolbwyntio ar ddull system-gyfan. 
  • Cymru yw'r wlad gyntaf i ddylunio a disgrifio'r fethodoleg ar gyfer 'Sut' i ddangos dull sy’n seiliedig ar werth. 
  • Mae'r PSOM (y cyntaf o'i fath) yn caniatáu casglu, dadansoddi a defnyddio PROMs yn gyson. 
  • Mae Dr Lewis wedi tywys cydweithwyr tuag at weithio mewn partneriaeth a gwneud penderfyniadau ar sail data. 
  • Datblygwyd offer digidol i dynnu sylw at amrywiadau mewn canlyniadau, prosesau a chostau, gan gynhyrchu gwelliannau i'r llwybr. 
  • Mae WViHC yn golygu bod modd defnyddio data canlyniadau nad oedd ar gael o'r blaen, gan hyrwyddo system gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy’n seiliedig ar ddata. 
  • Mae Cymru bellach yn arweinydd byd-eang yn VBHC o dan weledigaeth Dr Lewis. 

Beth nesaf?

  • Mae tîm WViHC bellach wedi'i integreiddio yn yr adran Digidol, Data a Dadansoddeg yng Ngweithrediaeth GIG Cymru, gan wella cysylltedd a defnydd ehangach. 
  • Drwy fod yn fwy cyson â swyddogaethau Gweithrediaeth GIG Cymru anelir at drawsnewid y system tuag at roi gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac ar ganlyniadau. 
  • Mae partneriaethau â'r byd academaidd, diwydiant a chyrff cyhoeddus yn cefnogi’r gwaith o ddefnyddio’r dull gweithredu hwn ym mhob man. 
  • Mae enw da Cymru yn rhyngwladol yn meithrin cyfleoedd ar gyfer dysgu ar y cyd.
  • Bydd y cam nesaf yn canolbwyntio ar gynnal momentwm ac adeiladu ar yr hyn a gyflawnwyd eisoes. 

Cysylltiadau

sarah.puntoni@wales.nhs.uk