Neidio i'r prif gynnwy

Datblygu fframwaith ar gyfer sefydlu cydgysylltwyr mewn wardiau esgor cenedlaethol (mamolaeth)

Rebecca Boore, Rheolwr Dylunio a Datblygu (Amenedigol), Addysg a Gwella Iechyd Cymru

Cyflwyniad

Nododd Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), mewn cydweithrediad ag Arweinwyr Strategol Bydwreigiaeth ledled Cymru, bod anghysondebau yn y broses sefydlu ar gyfer cydgysylltwyr wardiau esgor (LWC) ar draws byrddau iechyd Cymru.

Mae cydgysylltwyr wardiau esgor yn hanfodol ar gyfer gosod diwylliant a safonau diogelwch mewn wardiau mamolaeth, ond ar hyn o bryd nid oes llwybr datblygu safonol ar eu cyfer, fel y dangosodd  adroddiadau diweddar am ganlyniadau anffafriol i famau a babanod newydd-anedig. Datgelodd y gwaith cwmpasu cychwynnol bod bylchau mewn arferion sefydlu ffurfiol, gan arwain at ddatblygu fframwaith Cymru-gyfan i sicrhau hyfforddiant sefydlu ac arweinyddiaeth gyson, o ansawdd uchel ar gyfer cysgysylltwyr wardiau esgor.


Dulliau

Er mwyn gweithredu'r prosiect sefydlu cydgysylltwyr wardiau esgor (LWC), cydweithiodd AaGIC â byrddau iechyd a rhanddeiliaid i fynd i'r afael â'r diffyg proses sefydlu safonol ar gyfer y rôl hanfodol hon.

Cafodd cydgysylltydd wardiau esgor glinigol ei secondio i AaGIC am chwe mis i ddatblygu fframwaith sefydlu gan ddefnyddio'r Model ar gyfer Gwella a’r dull Cynllunio, Gwneud, Astudio, Gweithredu.

Cafwyd cyfraniad rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys bydwragedd, cyrff proffesiynol, a phrifysgolion, drwy arolygon a chyfarfodydd i sicrhau eu cymorth a’u mewnbwn. Strwythurwyd y prosiect mewn tri cham: datblygu fframwaith, gweithredu a chasglu adborth.


Canlyniadau

  • Datblygwyd fframwaith Cymru-gyfan ar gyfer cydgysylltwyr wardiau esgor, yn cwmpasu pedwar maes: addysg a hyfforddiant, ymchwil a thystiolaeth, ymarfer bydwreigiaeth glinigol arbenigol ac arweinyddiaeth. 
  • Mae'r fframwaith yn safoni’r prosesau ar gyfer sefydlu darpar gydgysylltwyr mewn wardiau esgor, rhai sydd newydd eu penodi a’r cydgysylltwyr presennol. 
  • Mesur meintiol: Olrhain nifer y cydgysylltwyr newydd sy'n cwblhau’r broses sefydlu gan ddefnyddio'r fframwaith. 
  • Mesur ansoddol: Casglu adborth gan fentoriaid a chydgysylltwyr am effaith y fframwaith, eu hawgrymiadau a’u profiad cyffredinol. 
  • Mae byrddau iechyd yn gweithredu'r fframwaith, gydag adborth cadarnhaol yn tynnu sylw at ei lwyddiant o ran gwella datblygiad personol, safoni a mentora strwythuredig. 

Dysgu

  • Bu secondio arweinydd clinigol o fudd mawr oherwydd eu harbenigedd a'u rhwydweithiau o fewn GIG Cymru. 
  • Roedd yr amserlen yn uchelgeisiol; cymerodd y prosiect fwy o amser na'r disgwyl oherwydd ymgynghoriadau ychwanegol, gwelliannau a chyfieithu a dylunio. 
  • Roedd yn her cael gafael ar ddata cychwynnol, yn enwedig faint o gydgysylltwyr wardiau esgor oedd yng Nghymru.
  • Nodwyd problemau gyda dyluniad yr arolygon: cwestiynau allweddol wedi eu hepgor ac angen tmgysylltu'n well wrth ddatblygu arolygon. 
  • Roedd yn anodd cyfathrebu a gweithredu mewn ffordd oedd wedi'i dargedu, gan dynnu sylw at yr angen am gyfranogiad cynnar y rhanddeiliaid allweddol. 

Beth nesaf?

  • Datblygu arolwg i asesu'r defnydd o'r fframwaith gan gydgysylltwyr wardiau esgor sydd newydd eu penodi ers mis Ebrill 2024.  Casglu adborth i wella cyfraddau ymateb, gan fynd i'r afael â’r heriau a nodwyd gyda dyluniad yr arolygon. 
  • Adolygu a diwygio'r fframwaith yn seiliedig ar adborth a meincnodi yn erbyn fframwaith GIG Lloegr. 
  • Ystyriaethau yn y dyfodol: datblygu pecynnau dysgu a fframweithiau tebyg ar gyfer rolau arweinwyr bydwreigiaeth. 

Cysylltiadau

rebecca.boore2@wales.nhs.uk