Neidio i'r prif gynnwy

Datblygu amgylchedd dysgu aml-broffesiwn mewn practis meddyg teulu: Cefnogi dysgwyr heddiw i fod yn weithwyr yfory

Esther Lomas, Meddyg Teulu Partner, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg 

Cyflwyniad

Roedd recriwtio ymgeiswyr cymwys ar gyfer rolau clinigol ac anghlinigol yn ein practis yn heriol, gyda'r rhan fwyaf o ymgeiswyr heb brofiad gofal sylfaenol ac angen cryn dipyn o hyfforddiant.

Roedd uno â phractis lleol sy'n wynebu materion recriwtio tebyg yn peri risgiau ychwanegol. Roedd y ffaith fod gweithlu nyrsio’r feddygfa’n heneiddio yn gwaethygu’r broblem, gan olygu fod llai o weithwyr proffesiynol profiadol ar gael. Gan gydnabod yr angen am ddull gwahanol, gwnaethom ddefnyddio ein cryfderau fel practis hyfforddi sy’n arbenigo mewn meddygaeth deuluol i ganolbwyntio ar adeiladu tîm aml-broffesiwn.

Ein nod oedd gwella cynaliadwyedd y gweithlu trwy ddatblygu amgylchedd hyfforddi ar gyfer pum rôl meddygaeth deuluol allweddol dros ddwy flynedd, gan sicrhau gofal diogel, effeithiol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn trwy roi addysg ac arweiniad. 


Dulliau

Gwnaethom benodi arweinydd hyfforddiant i fapio prosesau addysgu a hyfforddi ar gyfer pob rôl feddygaeth deuluol. Ym mis Hydref 2022, gwnaethom asesu ein gallu i gynnig lleoliadau a nodi cyfleoedd i ehangu ein cylch gwaith hyfforddi. Fe benderfynom ni dderbyn hyfforddeion nyrsio, prentisiaethau gweinyddu, a myfyrwyr gofal iechyd eraill, gan gydweithio â phrifysgolion a byrddau iechyd.

Sefydlwyd tîm hyfforddi aml-broffesiwn, gydag arweinwyr pwrpasol ar gyfer pob grŵp o ddysgwyr. Roedd tîm cyfan y practis yn rhan o greu amgylchedd dysgu cefnogol, sicrhau bod y rhaglen yn bodloni'r holl ofynion, ac yn ymgorffori adborth gan gleifion, dysgwyr ac addysgwyr.


Canlyniadau

  • Cynyddodd dyddiau goruchwylio o 860 (22/23) i 1505 (23/24). 
  • Mwy o ddiddordeb mewn recriwtio a chadw. 
  • Ehangwyd y tîm addysgu i gynnwys amrywiol diwtoriaid a goruchwylwyr proffesiynol. 
  • Ehangwyd y tîm rheoli. 
  • Roedd ehangu’r hyfforddiant yn ei gwneud yn haws cysylltu â gweithwyr proffesiynol medrus, gan wella ansawdd y gofal a chefnogi ymarfer annibynnol. 
  • Cyfrannu at gynaliadwyedd y gweithlu lleol drwy hyfforddi mwy o weithwyr proffesiynol nag sydd eu hangen ar ein practis. 

Dysgu

  • Roedd creu amgylchedd dysgu aml-broffesiwn yn gofyn am gynllunio pwrpasol a mapio prosesau. 
  • Roedd goruchwylio a mentora gydag amser neilltuedig yn hanfodol ar gyfer dysgu effeithiol a diogelwch cleifion. 
  • Gallai cyfleoedd dysgu rhyngbroffesiynol cynnar, h.y. sesiynau timau aml-ddisgyblaethol, fod wedi'u hamserlennu'n gynharach. 
  • Effeithiodd heriau recriwtio mewn un rôl ar y gallu i hyfforddi eraill; roedd cynnwys y tîm cyfan yn arwain at gyfraniadau gwerthfawr. 
  • Mae'r gwelliannau'n cynnwys cynllunio strategol cynnar, blaenoriaethu rolau allweddol, a meithrin perthynas â sefydliadau partner yn gynt. 
  • Ffactorau llwyddiant: cyfarfodydd partneriaeth rheolaidd, gweledigaeth glir, adolygu lleoliadau, a chynyddu goruchwylwyr.

Beth nesaf?

  • Datblygu rhaglenni hyfforddi myfyrwyr nyrsio a GPN sylfaen gydag AaGIC a Phrifysgol De Cymru. 
  • Gwerthuso cyfarfodydd timau aml-ddisgyblaethol i weld beth yw eu heffaith ar ddysgu rhyngbroffesiynol. 
  • Datblygu gweithlu rheoli a gweinyddu’r practis gyda AaGIC a phartneriaethau Gofal Sylfaenol a Chymunedol. 
  • Mentora addysgwyr newydd ac ehangu'r model hyfforddi i bractisau eraill.

Cysylltiadau

esther.lomas@wales.nhs.uk