Carchar EF Berwyn yn Wrecsam yw carchar mwyaf y DU. Mae'n hysbys bod hepatitis C (HCV) yn gyffredin ym mhoblogaethau carchardai. Roedd cyfraddau profi hepatitis C (HCV) yn isel oherwydd stigma, diffyg gwybodaeth a chyfyngiadau amser (29% o dderbyniadau yn 2017 gan godi i 62% erbyn 2019).
I ddechrau, llwyddiant cyfyngedig gafodd profi ar sail optio allan, ac roedd clinigau triniaeth misol yn ei chael hi'n anodd gwasanaethu'r holl garcharorion yn effeithiol, yn enwedig yn ystod COVID-19. O ystyried fod modd trin HCV ac mai nod Sefydliad Iechyd y Byd yw ei ddileu erbyn 2030, roedd angen gwella’r sefyllfa er mwyn rhoi gofal teg, prydlon.
Y nod yw cyflawni a chynnal trefniant micro-ddileu HCV (cynnig y prawf i 100%, 90% yn manteisio ar y cynnig, 90% yn cael triniaeth) yng Ngharchar y Berwyn erbyn mis Mawrth 2024, gan gyd-fynd â thargedau Cylchlythyr Iechyd Cymru.
Gwella profi: Cyflogi Nyrs Feirysau a Gludir yn y Gwaed; dechrau cynnal profion yn y man lle rhoddir gofal gyda swabiau ceg a phrofion llwyth feirysol cyflym ym mis Gorffennaf 2021 ar gyfer pob carcharor wrth iddynt gyrraedd.
Gwella cyfraddau trin: Fferyllydd arbenigol wedi'i ariannu o fis Ionawr 2022; addasu’r llwybr triniaeth carlam; cyfarfodydd amlddisgyblaethol wythnosol er mwyn cychwyn triniaeth yn gyflym.
Cefnogaeth cymheiriaid: Cyflogwyd dau o’n cymheiriaid yn Ymddiriedolaeth Hepatitis C ym mis Hydref 2022; hyfforddwyd 19 o wirfoddolwyr o blith y carcharorion i gynorthwyo gydag addysg, cefnogaeth a lleihau stigma.
Cyflwyno addysg: Addysg barhaus i staff a charcharorion; hyfforddiant i staff y dderbynfa fel bod profion dibynadwy’n cael eu gwneud; cyfarfodydd misol gydag uwch staff gofal iechyd
Profi carcharorion tymor hir: Carcharorion tymor hir heb eu profi yn cael eu targedu’n systematig gan gymheiriaid a nyrs.
Data: Defnyddiwyd SystmOne i gadw data amser real ynghylch y lefelau profi.