Neidio i'r prif gynnwy

Effaith Gweithredu ein Hathroniaeth a'n Diwylliant o fod yn Ofalgar, yn Dosturiol, yn Ddigynnwrf ac yn Hyderus

Lloyd Griffiths, Pennaeth Nyrsio, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg 

Cyflwyniad

Roedd Tŷ Llidiard (TL), uned Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS) gyda 15 gwely ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn wynebu heriau sylweddol, gan gynnwys morâl staff gwael, cyfraddau salwch a throsiant uchel, a gormod o ddigwyddiadau diogelwch yn ymwneud â chleifion. Roedd yr uned yn destun craffu manwl oherwydd pryderon am ansawdd, diogelwch, arweinyddiaeth a diwylliant, gan arwain at weithredu atebion tymor byr ar gyfer problemau hirdymor.

Roedd recriwtio ar gyfer rolau therapi allweddol yn anodd, gan effeithio ar ofal cleifion. Roedd yr adborth yn dangos bod pobl ifanc a theuluoedd yn teimlo nad oedd ganddynt lais yn eu gofal. Y nod oedd sefydlu diwylliant o arweinyddiaeth ragorol a diogelwch seicolegol gyda thimau deinamig sy'n perfformio’n dda ac yn gyrru gofal a thriniaeth yn ei flaen ar sail tystiolaeth.


Dulliau

Sefydlwyd bwrdd gwella dan arweiniad gweithredol i yrru’r meddylfryd "O’r Ward i'r Bwrdd," gan ganolbwyntio ar welliant system-gyfan sy'n canolbwyntio ar anghenion pobl ifanc. Roedd y bwrdd, gyda thair ffrwd waith — Gofal Gofalgar, Tosturiol, Diogel ac Effeithiol; Arweinyddiaeth Ddigynnwrf, Hyderus; ac Amgylchedd Addas i'r Diben — yn rhoi pwyslais ar arweinyddiaeth weladwy a gwneud penderfyniadau ar y cyd. Roedd digwyddiadau ymgysylltu ac ymgynghoriadau â rhanddeiliaid, gan gynnwys cleifion, gofalwyr a staff, yn defnyddio methodoleg Gwella Ansawdd a'r offeryn 4N ar gyfer  adborth. Derbyniodd dros 60 aelod o staff hyfforddiant Gwella Ansawdd, a chydgynhyrchwyd yr holl welliannau gyda phobl ifanc a'u teuluoedd, dan arweiniad y bedair egwyddor: Gofalgar, Tosturiol, Digynnwrf a Hyderus.


Canlyniadau

  • Amgylchedd cefnogol, cydweithredol a chynhwysol. 
  • Llai o salwch/trosiant.
  • Gostyngiad sylweddol mewn arferion sy’n  cyfyngu a digwyddiadau diogelwch sy’n cynnwys cleifion (i lawr i 9 y mis yn 2023 o 87 yn 2021). 
  • Gostyngiad yn nifer y bobl ifanc sydd angen gofal mewn ysbytai preifat cost uchel y tu allan i Gymru. 
  • Adborth cadarnhaol gyda staff yn teimlo eu bod wedi'u grymuso i wneud gwelliannau. 
  • Cynlluniau gofal wedi’u cynhyrchu ar y cyd yn dilyn yr egwyddor "ddim amdanaf i, hebddo fi." 
  • Roedd agwedd drws agored yr uwch reolwyr yn gwella tryloywder, ymddiriedaeth a’r ymgysylltiad â staff, cleifion a theuluoedd. 
  • Mabwysiadwyd logo’r athroniaeth Gofalgar, Tosturiol, Digynnwrf a Hyderus yn eang, gan greu ymdeimlad o hunaniaeth a balchder ymhlith staff. 
  • Sefydlwyd diwylliant o gynnig gofal diogel, effeithiol a thosturiol yn ddigynnwrf a chyda hyder. 

Dysgu

  • Pwysigrwydd bod yn dryloyw.  
  • Roedd dull digynnwrf, pwyllog i greu diwylliant diogel a pharchus yn caniatáu gwneud gwelliannau ystyrlon, parhaol. 
  • Yr angen am gynllunio gwell wrth werthuso cynnydd cyn gwneud newidiadau. 
  • Pwysigrwydd "O’r Ward i'r Bwrdd", dull tîm cyfan. 

Beth nesaf?

  • Mae diwylliant agored yn creu syniadau parhaus ar gyfer gwelliannau. 
  • Mae'r grŵp cydgynhyrchu yn datblygu adnoddau hyfforddi staff a gwybodaeth cyn derbyn cleifion. 
  • Creu Fframwaith Profiad Byw. 
  • Mae gwaith yn cael ei rannu drwy ddigwyddiadau a chyhoeddiadau cenedlaethol.  
  • Cydweithio â CAMHS NWAS ar ddull gweithio ar gyfer Cymru gyfan. 

Cysylltiadau

lloyd.griffiths@wales.nhs.uk