Neidio i'r prif gynnwy

NewidCyflym: Animeiddiad rhyngweithiol wedi'i gynhyrchu ar y cyd i wella'r gwaith o hyrwyddo ac annog symudiadau dyddiol

Martha-Jane Powell, Uwch Ymarferydd Hyrwyddo Iechyd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro 

Cyflwyniad

Mae lefelau gweithgarwch corfforol plant yn dirywio'n fyd-eang, gan niweidio iechyd corfforol a meddyliol. Yng Nghymru, dim ond 51% o blant 3-17 oed sy'n bodloni canllawiau gweithgarwch corfforol Sefydliad Iechyd y Byd ac mae mwy nag un o bob pedwar plentyn (4-5 oed) dros bwysau neu'n ordew, gyda chyfraddau’n cynyddu wedi'r pandemig.

Roedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn gweld mwy o achosion o boen traed ymhlith plant ifanc oherwydd anweithgarwch. Mewn ymateb, datblygwyd datrysiad digidol arloesol, gan droi ymarferion podiatreg yn animeiddiadau rhyngweithiol. Y nod, sy'n cyd-fynd â'r safonau Dyletswydd Ansawdd, oedd creu cyfleoedd symud dyddiol ar gyfer 300 o blant (4-6 oed) mewn ystafelloedd dosbarth yng Nghaerdydd a'r Fro o fewn chwe mis. 


Dulliau

Cydweithiodd arweinwyr prosiect o feysydd iechyd cyhoeddus a phodiatreg i ddatblygu cynnyrch oedd yn gwella gwasanaethau, gan sicrhau cyllid drwy fenter atal a blynyddoedd cynnar y bwrdd iechyd a phartneru gydag animeiddwyr preifat lleol i greu animeiddiad wedi’i frandio sy'n ymgorffori ymarferion podiatreg a chymeriadau rhyngweithiol.

Trwy fframwaith Gwella Ansawdd Gyda'n Gilydd (IQT) a defnyddio'r model Cynllunio Gwneud Astudio Gweithredu (PDSA), bu’r tîm yn ymgysylltu â staff clinigol ac anghlinigol y GIG, cydweithwyr o adrannau addysg awdurdodau lleol, ac ysgolion trwy gydol y prosiect. Cynhaliwyd cyfarfodydd i randdeiliaid ar bob cam i sicrhau ansawdd a chysondeb y cynnyrch, a chreu a threialu amserol. Cynhaliwyd peilot NewidCyflym rhwng Tachwedd 2022 a Chwefror 2023.


Canlyniadau

  • Fe wnaeth 281 o blant gymryd rhan, ychydig yn brin o'r targed o 300 oherwydd absenoldebau disgyblion. 
  • Dywedodd 84% o blant eu bod yn fodlon iawn; roedd 16% yn teimlo bod rhai ymarferion yn rhy galed neu’n eu blino ormod. 
  • Roedd 100% o athrawon yn teimlo ei bod yn hawdd gweithredu NewidCyflym; mae 80% eisiau iddo gael ei ymgorffori yn y cwricwlwm. 
  • Y consensws cyffredinol oedd y gellid defnyddio NewidCyflym ochr yn ochr ag ymyriadau gweithgarwch corfforol dyddiol eraill. 
  • Mwy o hyder ac effaith gadarnhaol ar allu corfforol plant. 
  • Mae ysgolion yn hapus i barhau i ddefnyddio NewidCyflym ac yn croesawu ymarferion dilyniant. 

Dysgeidiaeth

  • Mae cydweithredu ar draws y sectorau clinigol, anghlinigol ac addysg wedi rhoi llais i safbwyntiau gwahanol.  
  • Roedd rolau cyflenwol yn canolbwyntio ar annog symudiad o safbwynt atal.
  • Yr angen am ganiatâd, ymrwymiad a mwy o amser penodol i glinigwyr gymryd rhan mewn technegau atal yn llawn. 
  • Mae ymyriadau yn dal i gael eu datblygu a’u profi ymysg carfanau amrywiol o’r boblogaeth i gynyddu cyfleoedd i symud. 

Beth nesaf?

  • Lledaenu ac addasu er mwyn ehangu NewidCyflym drwy Gymru a thu hwnt. 
  • Ffurfio cysylltiadau newydd i gynyddu mynediad a chynwysoldeb, a fydd o fudd i genedlaethau'r dyfodol. 
  • Cynlluniau i archwilio NewidCyflym fel offeryn ymgysylltu â chleifion ar wahanol lwybrau gofal iechyd. 
  • Ymrwymiad i sicrhau bod y cynnyrch yn ateb anghenion pob plentyn, gan gynnwys y rhai ag anghenion arbennig ac anableddau. 

Cysylltiadau

martha-jane.powell@wales.nhs.uk