Datgelodd astudiaeth gan Brifysgol Caerdydd gynnydd sydyn mewn materion iechyd meddwl difrifol yng Nghymru, gan ddyblu o 11.7% cyn y pandemig i 28.1% wedi'r pandemig. Gyda chyfraddau marwolaeth uwch yng Nghymru o'i gymharu â Lloegr a phryderon wedi’u codi mewn adroddiadau Rheoliad 28 ynghylch methiannau rhannu data, mae'r angen am weithredu ar frys yn glir.
Mae'r materion hyn, sy'n cael eu cymhlethu gan amseroedd aros uwch a chyfyngiadau adnoddau, yn herio'r gallu i ddarparu gofal cyson a diogel. Er mwyn mynd i'r afael â hyn, lansiwyd menter ymchwil 12 wythnos i ddarganfod beth oedd yr heriau a’r cyfleoedd ar draws Gwasanaethau Iechyd Meddwl GIG Cymru, yn unol â nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2014.
Gan ddefnyddio dull ystwyth a chymysg gydag Arbenigwr Pwnc allanol, mae archwiliadau dwfn ar draws Gwasanaethau Iechyd Meddwl Cymru wedi nodi heriau, dyheadau a’r angen i fuddsoddi er mwyn creu newid trawsnewidiol. Roedd y dull yn cynnwys dod â’r holl wybodaeth a ddysgwyd yn flaenorol at ei gilydd, dilysu a blaenoriaethu cyfleoedd gyda rhanddeiliaid, a nodi camau cyflym ymlaen a nodau tymor hir trwy gyfrwng gweithdai ac offer rhyngweithiol.
Roedd y rhai oedd yn cymryd rhan yn cynnwys byrddau iechyd, Pennaeth Gwasanaethau Iechyd Meddwl, Cyfarwyddwyr Digidol, Gweithrediaeth y GIG ac Arweinwyr Iechyd Meddwl Llywodraeth Cymru, Ymarferwyr Iechyd Meddwl, sefydliadau gofal sylfaenol a gofal cymdeithasol a sefydliadau'r trydydd sector, a defnyddiwyd offer digidol fel Miro i gydweithio’n barhaus ac mewn amser real. Nod y broses hon oedd creu consensws ynghylch gwella gwasanaethau iechyd meddwl a mynd i'r afael â’r heriau o ran modelau cyflenwi, cyllid a chapasiti yr adnoddau cyfredol.
Defnyddwyr Gwasanaethau:
Staff a Sefydliadau:
System Ehangach: