Neidio i'r prif gynnwy

Model Iechyd Meddwl a Lles Emosiynol (MH&WB) Clwstwr Cwmtawe

Debra Morgan, Rheolwr Datblygu Busnes, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe 

Cyflwyniad

Mae adborth gan feddygon teulu ac eraill yn y clwstwr yn dangos llif llethol o gleifion â phroblemau iechyd meddwl a lles isel i gymedrol, gan arwain at alw nad yw’n cael ei ddiwallu. Roedd gwasanaethau fel presgripsiynu cymdeithasol yn ei chael hi'n anodd ymdopi, yn enwedig yn ystod 2020.

Dangosodd gwybodaeth seiliedig ar ddata bod bylchau sylweddol yn y gwasanaeth, gyda chyfraddau atgyfeirio uchel i wasanaethau iechyd meddwl lleol, cyfraddau brawychus o farwolaethau oherwydd cyffuriau yn Abertawe (40% yn fwy nag unrhyw awdurdod lleol arall) a chynnydd mewn achosion o gam-drin domestig.

Amlygodd Asesiad o Anghenion Poblogaeth Gorllewin Morgannwg 2022 -2027 heriau iechyd meddwl oedd yn cynyddu gan gynnwys cynnydd mewn materion iechyd meddwl ymhlith pobl ifanc, mwy o achosion o ddementia a chyfraddau hunanladdiad uchel, sy’n cael eu gwaethygu gan ffactorau cymdeithasol fel unigrwydd.

Y nod yw datblygu model clwstwr o wasanaethau iechyd meddwl gofal sylfaenol i leihau apwyntiadau sy'n ymwneud â meddyg teulu o 60% o fewn tair blynedd.


Dulliau

Sefydlwyd model gofal sylfaenol ar lefel gymunedol a oedd yn canolbwyntio ar ymyrraeth gynnar ac atal problemau iechyd meddwl ac emosiynol gan ddefnyddio dull PDSA.  Roedd y prif gamau gweithredu yn cynnwys: 

  • Ymgysylltiad cymunedol  
  • Cydweithio â phartneriaid ar draws sectorau i gymryd agwedd gyfannol at ofal, oedd yn sicrhau'r person iawn, yn y lle iawn ar yr amser iawn. 
  • Cynhaliwyd profion dilyniannol ar wasanaethau fel cwnsela i bob oed, presgripsiynu cymdeithasol, a phorth ar gyfer Ymarferwyr Lles y Clwstwr. 
  • Sefydlwyd cynllun peilot Ward Iechyd Meddwl Rhithwir, grŵp cymorth cymheiriaid ar gyfer materion diogelu, a chymerwyd rhan mewn Cyfarfodydd Mynychwyr Aml Adrannau Achosion Brys i fynd i'r afael â materion sylfaenol. 
  • Roedd gwasanaethau a ehangwyd yn cynnwys sesiynau drymio therapiwtig a Chaffi Dementia.

Canlyniadau

  • Dull amlasiantaethol, ataliol, o ymdrin â gwasanaethau iechyd meddwl lefel isel o fewn y clwstwr.
  • Ei gwneud yn symlach i gael gofal gyda brysbennu ac atgyfeirio effeithiol, gan sicrhau bod y person iawn yn cael ei weld y tro cyntaf. 
  • Gwella ansawdd bywyd cleifion ac atal argyfyngau iechyd meddwl. 
  • Gwell adnabyddiaeth o faterion diogelu ac anghenion gofalwyr/aelodau o'r teulu sydd heb eu diwallu. 
  • Rhannwyd y model hwb gyda chlystyrau a byrddau rhanbarthol eraill i gefnogi datblygiad gwasanaethau ehangach. 
  • Partneriaethau mwy grymus a llai o effaith ar ofal sylfaenol, gyda llai o achosion yn symud ymlaen i wasanaethau eilaidd. 
  • Adborth cadarnhaol gan ddefnyddwyr gwasanaethau. 

Dysgu

  • Mae dull amlasiantaethol o weithredu ar 'stepen drws' wedi arwain at well mynediad at y gefnogaeth gywir mewn da bryd.
  • Mae angen symleiddio atgyfeiriadau ar draws sefydliadau a rhannu data i osgoi oedi wrth gael mynediad at wasanaethau. 
  • Mae'r system yn hanfodol ar gyfer gwella arferion diogelu. 
  • Mae gweithio’n rhwydd ar draws ffiniau sefydliadol yn sicrhau nad yw cleifion yn syrthio trwy fylchau. 

Beth nesaf?

  • Mireinio map o wasanaethau a rhannu’r hyn a ddysgwyd i ddylanwadu ar gynllunio mewnol a chyflwyniad gwasanaethau.
  • Archwilio sut mae swyddi/swyddogaethau allweddol yn dod yn 'brif ffrwd'. 
  • Sefydlu sut y bydd Seicolegydd y Clwstwr yn cysylltu â gwasanaethau’r Hwb / y gymuned.  
  • Hyrwyddo'r model o ddarpariaeth Iechyd Meddwl dan arweiniad Clwstwr ar draws clystyrau eraill. 

Cysylltiadau

debra.morgan8@wales.nhs.uk