Dan arweiniad Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (BIPBA) a gyda chydweithrediad gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn genedlaethol, y nod oedd datblygu a gweithredu cwrs e-ddysgu am ddim ar 'ddefnyddio nwyon a silindrau meddygol yn ddiogel' ar gyfer staff y GIG o fewn 12 mis.
Roedd y rhaglen yn canolbwyntio ar addysg ymarferol, uniongyrchol i wella cymhwysedd staff a’r canlyniadau i gleifion.
Gyda gwasanaeth iechyd Cymru dan bwysau dwys, mae darparu cymorth a hyfforddiant lleol yn hanfodol ar gyfer cadw meddygon medrus a sicrhau gofal o ansawdd uchel i gleifion.