Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen Addysg Lymffoedema Clinigol ar Lawr Gwlad ar gyfer Staff Cymunedol (OGEP)

Melanie Thomas, Cyfarwyddwr Clinigol Lymffoedema Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe 

Cyflwyniad

Nod y 'Rhaglen Addysg Lymffoedema Clinigol ar Lawr Gwlad' (OGEP) oedd mynd i'r afael ag atgyfeiriadau hwyr a thriniaeth mewn lleoliadau cymunedol lle nad oedd fawr ddim gwelliant, a fyddai’n arwain yn aml at chwyddo a chlwyfau sylweddol mewn cleifion. Roedd hyfforddiant lymffoedema traddodiadol yn cael ei lesteirio gan heriau llwyth gwaith ac nid oedd digon o hyder ar ôl hyfforddi.

Roedd y rhaglen yn canolbwyntio ar addysg ymarferol, uniongyrchol i wella cymhwysedd staff a’r canlyniadau i gleifion. O ystyried bod lymffoedema ar gynnydd, gallai triniaeth gynnar effeithiol leihau clwyfau cronig a derbyniadau i'r ysbyty, gan arbed costau gofal iechyd. Nod OGEP oedd gwella ansawdd gofal, atal gwastraff, a gwell canlyniadau sy'n canolbwyntio ar y claf trwy hyfforddi 500 o weithwyr gofal iechyd cymunedol proffesiynol rhwng 2021 a 2024. 


Dulliau

  • Penderfynu o ran sut, pryd, pwy, a chyllid. 
  • "DIM DATA = DIM PROBLEM= DIM ATEB" yn pwysleisio pwysigrwydd cipio data am dystiolaeth ac ymchwil cychwynnol. 
  • Cynhaliwyd trafodaethau gyda nyrsys cymunedol a defnyddwyr gwasanaethau 
  • Gan ddefnyddio'r Fframwaith Rheoli Rhaglenni Llwyddiannus, crëwyd achos busnes a sicrhawyd cyllid i dreialu a phrofi OGEP.  
  • Defnyddiwyd cylchoedd PDSA i gynyddu gwybodaeth a sgiliau nyrsys cymunedol wrth adnabod a thrin lymffoedema yn effeithiol a gweithredu dulliau rheoli arfer gorau i gleifion. Gwerthuswyd hyn trwy weld gwelliant yn hyder, cymhwysedd ac ymwybyddiaeth y nyrsys, effeithiolrwydd y driniaeth, Mesurau Canlyniad a Adroddir gan Glaf (PROMs), a chyfraddau rhyddhau cleifion.  Addaswyd OGEP yn aml, gyda sesiynau addysg ffurfiol, a chanllawiau cadarn h.y. 'Llwybr Coesau Gwlyb' (WLP). 

Canlyniadau

  • Rhaglen OGEP wedi’i wreiddio mewn chwe bwrdd iechyd 
  • Y rhaglen OGEP wedi addysgu 2,019 o nyrsys, gan gael effaith ar y gofal drwy wella gwybodaeth a sgiliau. 
  • Gwelliannau i ofal cleifion: 
    • Roedd gan 36% lefelau cywasgu uwch 
    • Roedd 25% wedi newid i ddillad cywasgu, gan olygu llai o ymweliadau gan nyrsys 
    • Derbyniodd 19% ddillad ar gyfer gofal rhagweithiol 
    • Dim ond 10% welodd ddim newid o gwbl o ran gofal 
  • O fewn dau fis, roedd 35% o gleifion wedi’u hiacháu a'u rhyddhau. 
  • Roedd adborth gan nyrsys yn tynnu sylw at yr hyfforddiant ymarferol a’u bod wedi diweddaru eu gwybodaeth. 
  • Canlyniadau cleifion wedi gwella 
  • Cymhwysedd/hyder staff wedi gwella 
  • Cynyddu effeithiolrwydd/effeithlonrwydd 
  • Enillion ariannol 

Dysgu

  • Roedd rheolwyr canol yn rhoi mwy o sylw i arbedion effeithlonrwydd yn hytrach na gofal effeithiol. 
  • Roedd data yn allweddol i ddangos gwerth. 
  • Dylai PROMs fod wedi cael eu cynnwys o'r dechrau. 
  • Mae’r Llwybr Coesau Gwlyb (WLP) a ddatblygwyd ar gyfer myfyrwyr nyrsio yn werthfawr. 
  • Rhagorwyd ar yr amcan i addysgu 500 o nyrsys oherwydd cyfraddau cadw isel; angen addysgu parhaus. 

Beth nesaf?

  • OGEP, y gellir ei addasu i'r holl wasanaethau nyrsio cymunedol. 
  • Mae'r WLP yn cael ei fabwysiadu ar draws y DU a'i gyfieithu i'r Almaeneg. 
  • Mae codi ymwybyddiaeth, adnabod lymffoedema, a chynnal addysg effeithiol yn hanfodol. 

Cysylltiadau

melanie.j.thomas@wales.nh.uk