Yn sgil rhybuddion cenedlaethol am ddiogelwch cleifion a bylchau mewn hyfforddiant, sefydlwyd y nod o greu cwrs e-Ddysgu am ddim ar ddefnyddio nwyon meddygol yn ddiogel ar gyfer staff y GIG, gan fynd i'r afael â beichiau ariannol sylweddol.
Dan arweiniad Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (BIPBA) a gyda chydweithrediad gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn genedlaethol, y nod oedd datblygu a gweithredu cwrs e-ddysgu am ddim ar 'ddefnyddio nwyon a silindrau meddygol yn ddiogel' ar gyfer staff y GIG o fewn 12 mis.
Cyfrannodd aelodau'r tîm a rhanddeiliaid eu harbenigedd i ddatblygu hyfforddiant pwrpasol mewn nwy meddygol. Trwy adeiladu tîm a thrafodaethau agored, crëwyd cwrs e-ddysgu cryno, rhyngweithiol. Profodd grwpiau staff sy'n defnyddio nwyon meddygol y fersiynau drafft a helpu i fireinio’r cynnwys. Treuliwyd dros 300 awr ar ddylunio, gydag adolygiadau parhaus gan y tîm, adran e-ddysgu'r GIG, MHRA, BOC Ltd.
Ar ôl adolygu'r holl ddeunyddiau a gyflwynwyd, cytunwyd ar benodau gwahanol ac fe’u rhoddwyd i arbenigwyr i'w datblygu. Yna trafodwyd a chraffwyd ar y penodau hyn mewn cyfarfodydd a thrwy rwydweithiau, gyda logiau newid yn cadw cofnodion. Profwyd modiwlau gan wahanol weithwyr proffesiynol, a defnyddiwyd adborth i fireinio cynnwys, gan gadw pob modiwl o dan 8 munud. Cyfrannodd y tîm Diogelwch Cleifion Cenedlaethol a'r MHRA at broses o brofi dro ar ôl tro. Daeth saith adran i'r amlwg, gyda drafftiau yn cael eu rhannu mewn digwyddiadau cenedlaethol i gael adborth. Mae'r cwrs terfynol, a lansiwyd ym mis Awst 2023 ar e-ddysgu ar gyfer gofal iechyd ac ESR GIG Cymru, yn parhau i esblygu yn seiliedig ar adborth a gwerthuso gan ddefnyddwyr.