Manju Krishnan, Meddyg Strôc Ymgynghorol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Cyflwyniad
Ym mis Mehefin 2023, datgelodd dadansoddiad cychwynnol ar uned strôc acíwt fod oedi sylweddol o ran gosod tiwbiau nasogastrig (NG), gyda rhai cleifion yn aros hyd at 14 awr, a bod trafodaethau ynghylch risg a manteision rhoi maeth yn artisffisial wedi eu dogfennu’n wael.
Dangosodd archwiliad gydymffurfiad o 0% â'r polisi lleol ar gyfer maeth artiffisial. Nodwyd mai’r rheswm sylfaenol oedd diffyg ymwybyddiaeth staff o’r ddogfen gymorth ar gyfer gwneud penderfyniad NG ac oedi wrth osod tiwbiau nasogastrig. I fynd i'r afael â hyn, cyflwynwyd addysg i staff, sesiynau ymwybyddiaeth, a labeli MDT newydd, gyda'r nod o leihau amser mewnosod tiwbiau NG o 5.2 awr i lai na 3 awr erbyn mis Chwefror 2024, gan wella gofal a phrofiad y cleifion.
Dulliau
Er mwyn mynd i'r afael ag oedi wrth fewnosod tiwbiau nasogastrig (NG) ar uned strôc, ffurfiodd tîm amlddisgyblaethol (MDT) dîm arwain ar y cyd i fynd i'r afael â'r mater. Defnyddiwyd dull o fapio prosesau gyda sawl cylch PDSA i weithredu newidiadau, gan gynnwys sesiynau ymwybyddiaeth staff, labeli MDT newydd ar gyfer dogfennu’n well, a chyflwyno offeryn penderfynu NG wedi’i argraffu ar gyfer trafod risgiau a manteision.
Cafodd amseroedd mewnosod NG eu holrhain gyda siart reoli, gan ddatgelu bod yr amser cyfartalog ar y dechrau yn 5.2 awr o'r penderfyniad i’r dasg o fewnosod y tiwbiau. Trafodwyd cynnydd a rhwystrau yn rheolaidd mewn cyfarfodydd MDT dyddiol, gyda data parhaus yn cael ei fonitro i ysgogi gwelliant.
Canlyniadau
- Llwyddwyd i wella’r broses o ddogfennu’r trafodaethau am risg a manteision o 0% i 80%
- Wedi cwtogi amser mewnosod NG o 5.2 awr i 1.7 awr, gyda’r terfyn rheoli uchaf yn gostwng o 14.1 awr i 6.7 awr
- Roedd defnydd o 80% ar offeryn penderfynu NG gan ragori ar y targed o 50% ac mae bellach yn rhan o’r drefn arferol.
- Ni chyflawnwyd cydymffurfiaeth o 100% oherwydd bod tiwbiau NG yn cael eu hail-osod ar benwythnosau/y tu allan i oriau o fewn 24 awr o ddefnyddio’r offeryn penderfynu. Cytunodd y tîm nad oedd angen ffurflen newydd ar gyfer ail-osod tiwbiau o fewn 24 awr, gan leihau gwaith papur diangen.
- Adborth staff: roedd 90% yn teimlo bod newid prosesau yn gwella gofal heb wastraffu amser.
- Mae sesiynau ymwybyddiaeth staff rheolaidd a pholisi NG newydd sy'n benodol i'r uned strôc wedi cael eu gweithredu.
Dysgu
- Mae prosesau maeth artiffisial yn gymhleth, ac yn gofyn am gyfathrebu manwl a gwneud penderfyniadau dwys, sy’n effeithio ar ofal i gleifion strôc acíwt.
- Pwysigrwydd dogfennu trafodaethau er mwyn osgoi ymyriadau amhriodol ar gyfer cleifion diwedd oes.
- Yr angen am strwythurau llywodraethu clir ar gyfer mewnosod tiwbiau NG.
Beth nesaf?
- Mae prosiect gwella ansawdd cysylltiedig ar y gweill ynghylch pryd i gychwyn porthiant NG ar ôl mewnosod tiwbiau, dan oruchwyliaeth yr ymgynghorydd gwelliannau.
- Mae cynlluniau ar y gweill i gasglu Mesurau Canlyniad a Adroddir gan Glaf (PROM) ar faeth a mewnbwn dietegol ar y ward strôc, er gwaethaf heriau.
- Cwblhau polisi NG newydd; cynlluniau i ledaenu ac addasu i unedau strôc eraill ac, yn y pen draw, yn genedlaethol, gan gael effaith ehangach ar ofal cleifion.
Cysylltiadau
manju.krishnan@wales.nhs.uk