Neidio i'r prif gynnwy

Pennu'r angen am wasanaeth podiatreg i gleifion mewnol ar gyfer pobl ag afiechyd diabetig acíwt ar y traed

Jessica Rees, Uwch Gydlynydd Podiatreg Cleifion Mewnol, Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg

Cyflwyniad

Mae problemau traed actif ymhlith pobl â diabetes yn cael effeithiau ariannol sylweddol ar y GIG, gydag amcangyfrif o gostau wlseriad traed diabetig (DFU) a thrychiadau yn Lloegr rhwng £837 miliwn a £962 miliwn yn 2014-15. Mae cleifion DFU yn profi arosiadau hirach yn yr ysbyty, ond mae tystiolaeth yn dangos mai dim ond traean sy’n cael archwiliad traed o fewn 24 awr o gael eu derbyn.

Heb unrhyw wasanaeth podiatreg pwrpasol i gleifion mewnol, nid oedd yr ymateb yn ddigon cyflym a doedd dim digon o addysg yn cael ei roi i staff ar wardiau. Y nod yw sicrhau bod 80% o gleifion mewnol sydd â chlefyd traed diabetig actif yn cael eu hadolygu gan bodiatrydd o fewn un diwrnod gwaith o gael eu derbyn yn yr ysbyty erbyn mis Mawrth 2024.


Dulliau

Nododd dadansoddiad Pareto yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg mai prif achosion oedi wrth gyfeirio at wasanaethau podiatreg arbenigol oedd diffyg dealltwriaeth o'r llwybr a’r meini prawf ar gyfer cyfeirio. Er mwyn mynd i'r afael â hyn, roedd rhanddeiliaid, gan gynnwys timau nyrsio a meddygol, yn rhan o waith i ddatblygu meini prawf a llwybrau cyfeirio clir ar gyfer cleifion â phroblemau traed diabetig acíwt.

Cafodd y rhain eu lledaenu drwy sesiynau ymwybyddiaeth, hyfforddiant a chyfarfodydd, gyda phosteri yn cael eu harddangos mewn mannau clinigol i atgyfnerthu'r broses. Mae hyn yn sicrhau cyfeirio prydlon yn unol â llwybr Gwneud Pethau'n Iawn y Tro Cyntaf (GIRFT) a chanllawiau NG19 NICE, gan leihau’r oedi wrth roi triniaethau ac o bosibl lleihau hyd arosiadau mewn ysbytai.  Profwyd sesiynau a phosteri ymwybyddiaeth trwy gylchoedd PDSA.


Canlyniadau

  • Cynyddodd y cyfraddau ymateb i atgyfeiriad yn sylweddol: 92% o fewn 1 diwrnod gwaith yn y 6 mis cyntaf, 96.4% yn y 6 mis nesaf.  Cyn y prosiect, dim ond 63% o atgyfeiriadau a welwyd o fewn 1 diwrnod gwaith. 
  • Mae arolygon PREMS yn dangos cyfraddau boddhad uchel gan ddefnyddwyr gwasanaethau. 
  • Mae cyfeirio prydlon yn cynorthwyo’r gwaith o gynllunio triniaeth, delweddu ac atgyfeirio arbenigol priodol, lleihau arosiadau yn yr ysbyty a galluogi cleifion i gael eu rhyddhau’n ddiogel. 
  • Mae ymateb cyflym mewn Adrannau Brys/Unedau Gofal Brys Ambiwlans yn sicrhau'r rheolaeth a'r gofal gorau posibl, gan osgoi derbyniadau diangen yn aml. 

Dysgu

  • Roedd rôl uwch gydlynydd podiatreg i gleifion mewnol yn fuddiol i sicrhau asesiadau prydlon a hwyluso’r gwaith o wneud penderfyniadau’n gynt. 
  • Pe bai uwch dimau nyrsio a meddygol wedi cymryd rhan yn gynharach byddai wedi cyflymu'r broses o gyflwyno addysg ac ymwybyddiaeth o'r gwasanaeth. 
  • Bu oedi wrth adolygu a chadarnhau'r offeryn sgrinio yn rhwystr o ran gweithredu’n gynnar. 
  • Byddai casglu data cychwynnol cyn y prosiect wedi helpu i ddangos gwelliannau mesuradwy. 
  • Dylid adolygu canlyniadau arolwg PREMS yn barhaus i asesu profiad cleifion a gwerth y gwasanaeth. 

Beth nesaf?

  • Mae sesiynau addysg ac ymwybyddiaeth staff parhaus yn hanfodol ar gyfer cyfeiro’n brydlon.  
  • Mae teclyn sgrinio risg traed diabetig yn cael ei dreialu 
  • Nod y prosiect yw gwella canlyniadau, profiad ac effeithlonrwydd clinigol, gan gefnogi'r angen am wasanaeth podiatreg parhaol a phwrpasol i gleifion mewnol ar draws sawl safle. 

Cysylltiadau

jessica.rees@wales.nhs.uk