Neidio i'r prif gynnwy

Gwella amseroldeb o ran defnyddio tiwb Nasogastrig (NG) ar uned Strôc Acíwt

Manju Krishnan, Meddyg Strôc Ymgynghorol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe 

Cyflwyniad

Ym mis Mehefin 2023, datgelodd dadansoddiad cychwynnol ar uned strôc acíwt fod oedi sylweddol o ran gosod tiwbiau nasogastrig (NG), gyda rhai cleifion yn aros hyd at 14 awr, a bod trafodaethau ynghylch risg a manteision rhoi maeth yn artisffisial wedi eu dogfennu’n wael.

Dangosodd archwiliad gydymffurfiad o 0% â'r polisi lleol ar gyfer maeth artiffisial. Nodwyd mai’r rheswm sylfaenol oedd diffyg ymwybyddiaeth staff o’r ddogfen gymorth ar gyfer gwneud penderfyniad NG ac oedi wrth osod tiwbiau nasogastrig. I fynd i'r afael â hyn, cyflwynwyd addysg i staff, sesiynau ymwybyddiaeth, a labeli MDT newydd, gyda'r nod o leihau amser mewnosod tiwbiau NG o 5.2 awr i lai na 3 awr erbyn mis Chwefror 2024, gan wella gofal a phrofiad y cleifion.


Dulliau

Er mwyn mynd i'r afael ag oedi wrth fewnosod tiwbiau nasogastrig (NG) ar uned strôc, ffurfiodd tîm amlddisgyblaethol (MDT) dîm arwain ar y cyd i fynd i'r afael â'r mater.  Defnyddiwyd dull o fapio prosesau gyda sawl cylch PDSA i weithredu newidiadau, gan gynnwys sesiynau ymwybyddiaeth staff, labeli MDT newydd ar gyfer dogfennu’n well, a chyflwyno offeryn penderfynu NG wedi’i argraffu ar gyfer trafod risgiau a manteision.  

Cafodd amseroedd mewnosod NG eu holrhain gyda siart reoli, gan ddatgelu bod yr amser cyfartalog ar y dechrau yn 5.2 awr o'r penderfyniad i’r dasg o fewnosod y tiwbiau.  Trafodwyd cynnydd a rhwystrau yn rheolaidd mewn cyfarfodydd MDT dyddiol, gyda data parhaus yn cael ei fonitro i ysgogi gwelliant.


Canlyniadau

  • Llwyddwyd i wella’r broses o ddogfennu’r trafodaethau am risg a manteision o 0% i 80%  
  • Wedi cwtogi amser mewnosod NG o 5.2 awr i 1.7 awr, gyda’r terfyn rheoli uchaf yn gostwng o 14.1 awr i 6.7 awr 
  • Roedd defnydd o 80% ar offeryn penderfynu NG gan ragori ar y targed o 50% ac mae bellach yn rhan o’r drefn arferol. 
  • Ni chyflawnwyd cydymffurfiaeth o 100% oherwydd bod tiwbiau NG yn cael eu hail-osod ar benwythnosau/y tu allan i oriau o fewn 24 awr o ddefnyddio’r offeryn penderfynu. Cytunodd y tîm nad oedd angen ffurflen newydd ar gyfer ail-osod tiwbiau o fewn 24 awr, gan leihau gwaith papur diangen. 
  • Adborth staff: roedd 90% yn teimlo bod newid prosesau yn gwella gofal heb wastraffu amser. 
  • Mae sesiynau ymwybyddiaeth staff rheolaidd a pholisi NG newydd sy'n benodol i'r uned strôc wedi cael eu gweithredu. 

Dysgu

  • Mae prosesau maeth artiffisial yn gymhleth, ac yn gofyn am gyfathrebu manwl a gwneud penderfyniadau dwys, sy’n effeithio ar ofal i gleifion strôc acíwt. 
  • Pwysigrwydd dogfennu trafodaethau er mwyn osgoi ymyriadau amhriodol ar gyfer cleifion diwedd oes. 
  • Yr angen am strwythurau llywodraethu clir ar gyfer mewnosod tiwbiau NG.

Beth nesaf?

  • Mae prosiect gwella ansawdd cysylltiedig ar y gweill ynghylch pryd i gychwyn porthiant NG ar ôl mewnosod tiwbiau, dan oruchwyliaeth yr ymgynghorydd gwelliannau. 
  • Mae cynlluniau ar y gweill i gasglu Mesurau Canlyniad a Adroddir gan Glaf (PROM) ar faeth a mewnbwn dietegol ar y ward strôc, er gwaethaf heriau. 
  • Cwblhau polisi NG newydd; cynlluniau i ledaenu ac addasu i unedau strôc eraill ac, yn y pen draw, yn genedlaethol, gan gael effaith ehangach ar ofal cleifion. 

Cysylltiadau

manju.krishnan@wales.nhs.uk