Neidio i'r prif gynnwy

Sefydlu gwasanaeth a llwybr atgyfeirio ar gyfer Malaenedd o Darddiad Anhysbys (MUO)

Laura Jones, Oncolegydd Arbenigol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe 

Cyflwyniad

Mae MUO a Carcinoma Unknown Primary (CUP) yn cyflwyno heriau diagnostig a therapiwtig. Nid oedd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wasanaeth i gleifion allanol, llwybr atgyfeirio na darpariaeth gweithwyr allweddol, gan arwain at ofal tameidiog ac oedi.

Roedd data cychwynnol yn dangos methiannau o ran cadw at ganllawiau NICE, gydag oedi o ran triniaeth a chyfraddau uchel o dderbyniadau i'r ysbyty. 44 diwrnod oedd yr amser canolradd ar gyfer y llwybr canser, a dim ond 68% oedd yn cyrraedd y targed 62 diwrnod, gan amlygu'r angen am wasanaeth MUO pwrpasol i wella gofal, symleiddio diagnosteg, a sicrhau cydymffurfiaeth cyfartal â’r 62 diwrnod ar gyfer Llwybr Canser a Amheuir (SCP) (mewn 75% o achosion) o fewn dwy flynedd.


Dulliau

Defnyddiwyd dull PDSA strwythuredig, gyda chefnogaeth chwe cham allweddol y bwrdd iechyd ar gyfer gwella. Sicrhawyd cyllid gan  elusen ar gyfer prosiect peilot 6 mis i sefydlu llwybrau atgyfeirio a chlinig. Roedd rhanddeiliaid, gan gynnwys oncolegwyr, meddygon teulu, a'r Ganolfan Diagnosis Cyflym (RDC), yn rhan o’r gwaith o ddatblygu'r llwybr.

Cafodd gwybodaeth a phrofiad tîm MUO Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr eu hymgorffori. Crëwyd llwybr a gydgynhyrchwyd gyda'r RDC, gan sicrhau llwybr priodol i gleifion. Sefydlwyd y clinig peilot, wedi'i staffio gan feddyg teulu gyda hyfforddiant oncoleg estynedig ac arbenigwr nyrsio oncoleg acíwt, gyda lle i ddau glaf yr wythnos. Cafodd y llwybr ei gyhoeddi a'i rannu gyda meddygon teulu lleol.


Canlyniadau

  • Gofal ar gyfer cleifion MUO wedi'i drawsnewid gyda mynediad teg i glinig, diagnosis cyflym a gofal cydgysylltiedig. 
  • Wedi cwtogi amser SCP o 7 diwrnod (y canolrif o 44 i 37 diwrnod), gyda 72% yn cyflawni SCP 62 diwrnod. 
  • Wedi cwtogi Pwynt Amheuaeth (POS) i Therapi Gwrth-Ganser Systemig (SACT) o 20 diwrnod (y canolrif o 83 i 63 diwrnod) a radiotherapi o 34.5 diwrnod (y canolrif o 60 i 25.5 diwrnod). 
  • Wedi cwtogi derbyniadau yn ystod SCP o 74% i 60%, a hyd cyfartalog yr arosiadau mewn ysbyty o 13.8 i 8 diwrnod. 
  • Mae mewnbwn oncoleg cynnar yn helpu i osgoi triniaethau diangen, gan leihau biopsi heb driniaeth weithredol o 43% i 32%. 
  • Adborth cadarnhaol gan gleifion. 
  • Ehangwyd y gwasanaeth gyda model rhannu gofal mewn cydweithrediad â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. 

Dysgeidiaeth

  • Gwerthuswyd y cyfan trwy gymharu data cychwynnol gyda dau gylch archwilio dilynol, a gwelliannau parhaus. 
  • Casglwyd adborth gan gleifion a chydweithwyr trwy arolygon ar-lein. 
  • Cyflawnwyd 72% ar y SCP 62 diwrnod, yn agos at y nod cenedlaethol o 75%, er gwaethaf cymhlethdod. 
  • Dylid fod wedi cynnwys economeg iechyd a phrofiad cleifion wrth ddadansoddi’r effaith gychwynnol. 

Beth nesaf?

  • Mae aelodau'r tîm yn datblygu Llwybr Optimaidd Cenedlaethol ar gyfer MUO/CUP drwy Rwydwaith Clinigol Strategol Cenedlaethol Cymru ar gyfer Canser gan ddefnyddio’r hyn sydd wedi ei ddysgu i wella a safoni gofal ledled Cymru. 
  • Mae MUO, RDC, timau radioleg, cydweithwyr haematoleg, a rheolwyr BIPBA yn cydweithio i wella'r llwybr diagnostig ar gyfer lymffastraenopathi a amheuir. 

Cysylltiadau

laura.jones187768@wales.nhs.uk