Kate Baker, Pennaeth Therapïau, Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre
Cyflwyniad
Nododd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yng Nghanolfan Ganser Felindre fod dogfennau statws symudedd cleifion â Chywasgiad Metastatig ar yr Asgwrn Cefn (MSCC) yn aneglur a bod oedi’n digwydd cyn dogfennu. Roedd hyn yn arwain at heriau wrth ddarparu gofal diogel ac amserol. Roedd hyn wedyn yn arwain at symudedd amhriodol neu oedi o ran symudedd, gan gynyddu'r risgiau fel wlserau pwysedd, heintiau a chwympiadau.
Nododd staff nyrsio eu bod yn aml yn ansicr sut y dylid symud cleifion, gan olygu bod cleifion yn gorffwys yn y gwely am gyfnodau hir. Datgelodd archwiliad ôl-weithredol nad oedd statws symudedd 62% o gleifion a dderbynnir gyda MSCC wedi'i ddogfennu o fewn pedair awr, gan gadarnhau bod arferion yn anghyson. Y nod oedd sicrhau bod statws symudedd 100% o gleifion MSCC yn cael ei gofnodi cyn pen pedair awr o gael eu derbyn a hynny o fewn chwe mis.
Dulliau
- Defnyddiwyd fframwaith Model ar gyfer Gwella a nodwyd rhanddeiliaid drwy ymarfer mapio rhanddeiliaid.
- Cafwyd cefnogaeth uwch arweinyddiaeth o blith arweinwyr nyrsio, therapi ac oncoleg allweddol. Roedd uwch arweinyddiaeth glinigol gref yn ddylanwad mawr ar greu newid ac ymgorffori’r gwelliannau mewn arfer safonol.
- Ffurfiwyd tîm amlddisgyblaethol, gan greu mapiau proses a diagram sbardunau i arwain ymyriadau.
- Datblygwyd dwy ffrwd waith gyda thri chylch PDSA.
- Roedd casglu data parhaus yn llywio newidiadau parhaus.
- Trefnwyd sesiynau hyfforddi staff.
Canlyniadau
- PDSA 1: Drwy ddiweddaru dogfennau’r rhestrau gwirio ar gyfer trosglwyddo cleifion a chyflwyno sesiynau addysgu staff, sicrhawyd bod statws symudedd 82% o dderbyniadau wedi'i ddogfennu.
- PDSA 2: Mân ddiwygiadau i’r rhestr wirio a gwell hygyrchedd yn cynyddu’r gyfradd i 87.5%.
- PDSA 3: Ymgorffori’r rhestr wirio ar gyfer trosglwyddo yn y system archebu ambiwlans ac addysgu staff yn barhaus yn cynyddu'r gyfradd i 91%.
- Dangosodd pob cylch welliant cynyddol gan gynyddu’r mesur cychwynnol o 38% i 91%.
- Er na chyrhaeddwyd 100%, roedd hyn yn welliant sylweddol trwy gyflwyno newidiadau syml.
- Adborth cadarnhaol gan staff i’r rhestr wirio ar gyfer trosglwyddo a‘r sesiynau addysg.
Dysgu
- Roedd mynd i'r afael â dogfennu statws symudedd yn hanfodol i atal cymhlethdodau sy’n codi yn sgil ansymudedd hir.
- Er gwaethaf heriau COVID-19, arweiniodd y dull gwella ansawdd at gynnydd sylweddol o ran gwella dogfennaeth.
- Ffactorau allweddol: cydweithredu amlddisgyblaethol effeithiol, newidiadau syml i'r rhestr wirio, gwell hygyrchedd, ac addysg barhaus i staff.
- Enillodd tîm y prosiect brofiad gwerthfawr mewn methodoleg gwella ansawdd, gan ysbrydoli prosiectau gwella yn y dyfodol ar gyfer gofal cleifion MSCC.
Beth nesaf?
- Rhannwyd y canfyddiadau trwy grwpiau MSCC, timau AOS, cynadleddau cenedlaethol, a sesiynau hyfforddi lleol.
- Mae syniadau ymchwil yn y dyfodol yn cynnwys asesu'r effaith ar ganlyniadau cleifion, profiadau cleifion a gofalwyr, boddhad staff, ac effeithiolrwydd addysg.
- Bydd gwaith pellach yn archwilio canfyddiadau staff o reolaeth MSCC ac yn nodi unrhyw anghenion hyfforddi.
Cysylltiadau
kate.baker@wales.nhs.uk