Neidio i'r prif gynnwy

Y Rhaglen Cefnogi Diogelwch mewn Gofal Mamolaeth a Newyddenedigol (MatNeo SSP)

Bethan Jones, Bydwraig, Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru 

Cyflwyniad

Yn ystod cam diagnostig MatNeo SSP, nodwyd bod thermoreoleiddio newyddenedigol mewn lleoliadau cyn-ysbyty yn her, gyda data sylfaenol yn datgelu, o 44 babi dros gyfnod o ddau fis, bod tymheredd 16% ohonynt wedi’i gofnodi gyda 4% yn unig ohonynt â thymheredd normal wrth gael eu derbyn.

Roedd y mater yn gymhleth ac yn amlffactorol, felly defnyddiwyd dulliau gwella fel y dull 5 Pam ac Agwrn Pysgodyn i ddeall rhwystrau staff yn well. Datgelodd arolwg fod 54.8% o staff Gwasanaeth Meddygol Brys (EMS) Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST) yn teimlo bod offer yn rhwystr, ac roedd hyder mewn monitro tymereddau newyddenedigol yn isel. Nod y prosiect yw cynyddu monitro normothermia newyddenedigol i 80% erbyn mis Medi 2024.


Dulliau

Amlinellwyd dull strwythuredig mewn diagram sbardunau, gan ganolbwyntio ar bum prif sbardun: gwella cydymffurfiaeth staff a hyder wrth fonitro thermoreoleiddio newyddenedigol, caffael offer thermoreoleiddio, creu canllawiau thermoreoleiddio, rhoi gwell cyngor cyn cyrraedd, a gwneud tymheredd newyddenedigol yn faes gorfodol ar ePCR.

Cafodd y diagram sbardunau ei lunio drwy gyfathrebu rhwng rhanddeiliaid allweddol, arolygon staff, ac adolygiadau o’r llenyddiaeth. Drwy gydweithio gyda'r tîm dysgu a datblygu cafwyd rhaglenni hyfforddi wedi'u teilwra, tra bod arbenigwyr mewn neonatoleg wedi helpu i ddewis a chaffael offer diogel a dibynadwy. Crëwyd dogfennau canllaw gyda chyfraniadau gan arbenigwyr a staff, gyda lleisiau cleifion o waith ymchwil yn eu cefnogi.


Canlyniadau

  • Adborth cadarnhaol gan fyrddau iechyd ar dymereddau newyddenedigol pan maent yn cael eu derbyn. 
  • Mae nifer o fabanod cynamserol iawn wedi cael eu derbyn gyda thymheredd normal, gan leihau'r angen am dderbyniadau newyddenedigol ac atal gwahanu mamau a babanod. 
  • Effeithio'n gadarnhaol ar forbidrwydd a marwolaethau newyddenedigol yn yr amgylchedd cyn-ysbyty. 
  • Nid oes unrhyw dderbyniadau newyddenedigol hypothermig wedi cael eu hadrodd ar Datix yn ystod y tri mis diwethaf, sy'n awgrymu gwelliant.  Bydd hyn yn arwain at arbedion cost a gostyngiad yn hyd y derbyniadau. 
  • Adborth cadarnhaol gan staff i offer a hyfforddiant newydd, gyda 1,443 o staff yn cwblhau'r pecyn dysgu, ac yn ei raddio 4.9/5 

Dysgu

  • Mae cyfranogiad a hyder staff yn hanfodol ar gyfer dysgu effeithiol. 
  • Cydnabod pwysigrwydd cyfathrebu clir wrth gyflwyno offer. 
  • Angen sicrwydd gan staff ynglŷn â sut i weithredu’r offer. 
  • Hyderus o gyflawni'r nod gwella erbyn mis Medi 2024 er gwaethaf heriau. 

Beth nesaf?

Mae babanod sy'n cael eu geni heb weithiwr gofal iechyd proffesiynol yn bresennol yn fwy tebygol o fynd yn hypothermig.  Rhagdybiwyd bod hyn oherwydd cyfarwyddiadau galwadau 999 cyn cyrraedd. Bydd y PDSA nesaf yn canolbwyntio ar wella'r cyfarwyddiadau hyn drwy'r system MPDS rhyngwladol. Bydd data'n cael ei rannu ar draws gwasanaethau ambiwlans y DU i ledaenu’r dysgu. 


Cysylltiadau

bethan.jones81@wales.nhs.uk