Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr Gwybodaeth GIG Cymru

Gwella iechyd a lles cleifion â llid yr isgroen (BIPBA)

Y nod oedd sicrhau gostyngiad o 10% mewn achosion o ail-heintiad llid yr isgroen yn flynyddol ymhlith 7,000 o gleifion GIG Cymru drwy addysg a thriniaeth effeithiol.

Defnyddio Methodoleg Gwella Ansawdd i leihau oedi yn y Llwybr Syndrom Coronaidd Acíwt Di-ST (NSTEACS) (Gweithrediaeth GIG Cymru)

Y nod oedd lleihau'r amser o’r adeg pan gaiff claf ei dderbyn i pan mae’n cael angiograffeg, a hynny o 50%, gan fynd i'r afael â diogelwch, prydlondeb, effeithiolrwydd, effeithlonrwydd a thegwch mewn gofal.

Trawsnewid gwasanaethau codio clinigol mewn modd cyfannol (BIPCTM)

Datblygwyd strategaeth godio i wella'r defnydd o ddata wedi ei godio, gan gefnogi adferiad BIPCTM yn dilyn covid, strategaeth 2030, ac Adnodd Data Cenedlaethol Ffederal.