Neidio i'r prif gynnwy

Trawsnewid gwasanaethau codio clinigol mewn modd cyfannol

Andrew Nelson, Prif Swyddog Gwybodaeth, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Cyflwyniad

Mae gwybodaeth glinigol o ansawdd uchel yn hanfodol ar gyfer rhaglenni strategol a darpariaeth GIG Cymru ac ar gyfer gwireddu system iechyd a gofal sy’n dysgu. Effeithiodd pandemig COVID-19 ar godio clinigol yn ddifrifol, gan arwain at ôl-groniadau sylweddol a chyfraddau cyflawnrwydd codio o dan 70%.

Daeth yn anodd recriwtio codwyr achrededig, gyda dim ond nifer fach yn barod i weithio goramser a dim cyllideb ychwanegol ar gyfer contractwyr. Mae metrigau allweddol yn cynnwys cyflawni cyflawnrwydd codio o 95% o fewn mis, ehangu’r cwmpas codio, bod yn fwy cynhyrchiol, lleihau costau, cynnal ansawdd codio, a gallu cadw mwy o godwyr erbyn mis Mawrth a Mehefin 2024.


Dulliau

Datblygwyd strategaeth godio i wella'r defnydd o ddata wedi ei godio, gan gefnogi adferiad BIPCTM yn dilyn covid, strategaeth 2030, ac Adnodd Data Cenedlaethol Ffederal. Roedd y dull amlochrog hwn yn mynd i'r afael â recriwtio, datblygiad proffesiynol, technoleg a safonau, ac wedi’i greu ar y cyd gan dimau clinigol a gwybodeg.

Mae'r rhaglen ystwyth, ailadroddol, hon yn canolbwyntio ar sgiliau'r gweithlu a datblygiadau technolegol, gan ddefnyddio awtogodio sy'n cael ei yrru gan AI a chylchoedd gwella parhaus, gyda diweddariadau mawr i'r awtogodiwr bob chwarter.


Canlyniadau

  • Wedi cyflawni safon codio 95% yn gyson ers mis Mehefin 2023, gyda 97.8% o FCE 2023/24 wedi'u codio erbyn 1 Mai, 2024. 
  • Wedi ymestyn codio i’r rhan fwyaf o weithdrefnau cleifion allanol a chefnogi’r defnydd o awtogodio ar gyfer gweithgareddau atgyfeirio, rhestrau aros, ac Adrannau Brys.
  • Lleihau cyfanswm y gwariant ar godio clinigol o 0.8% o’r naill flwyddyn i’r llall. 
  • Mwy cynhyrchiol gyda chynnydd o 20.7% mewn codau cyfnod gofal gorffenedig dan ymgynghorydd (FCE), gan arwain at gynnydd o 17.8% mewn cost-effeithiolrwydd. 
  • Wedi cynnal ansawdd y codio a dim newid mewn cywirdeb a chyflawnrwydd o'r flwyddyn flaenorol. 
  • Wedi sicrhau bod tîm llawn o godwyr cymwys a chodwyr dan hyfforddiant wedi’u cadw dros y 12 mis diwethaf. 

Dysgu

  • Mae AI wedi dod â manteision cynaliadwy i dargedau codio na chyflawnwyd gan gynlluniau blaenorol. 
  • Mae gweledigaeth a gwaith tîm amlddisgyblaethol yn galluogi gwahanol ddulliau o gyflawni’r codio. 
  • Mae mabwysiadu technoleg yn arwain at welliannau cynaliadwy o ran ansawdd, arian a chynhyrchiant. 
  • Mae sgiliau tîm yn drosglwyddadwy gydag ymrwymiad i ddysgu ac addasu. 
  • Dylai ymdrechion yn y dyfodol ganolbwyntio ar ddatblygu'r awtogodiwr ar lefel arbenigedd benodol i fod yn fwy effeithlon. 

Beth nesaf?

  • Wedi'i rannu gyda'r holl fyrddau iechyd trwy'r grŵp codwyr clinigol, wedi cynnig yr awtogodiwr am ddim gyda'r bwriad o gynyddu’r budd. 
  • Dyrannwyd adnoddau ychwanegol i ymestyn offer AI ar gyfer gwella faint o wybodaeth glinigol sydd ar gael. 
  • Datblygu pecyn llunio ffurflenni i ganiatáu i glinigwyr greu ffurflenni sy'n bodloni safonau GIG Cymru, gan gydweithio â sefydliadau'r DU a'r Unol Daleithiau. 
  • Hyfforddi codwyr clinigol i ddefnyddio Snomed-CT a datblygu meddalwedd ar gyfer defnyddio ffurflenni FHIR. 

Cysylltiadau

andrew.nelson3@wales.nhs.uk