Neidio i'r prif gynnwy

Defnyddio Methodoleg Gwella Ansawdd i leihau oedi yn y Llwybr Syndrom Coronaidd Acíwt Di-ST (NSTEACS)

Jonathan Goodfellow, Arweinydd Clinigol Cenedlaethol Rhwydwaith Cardiofasgwlaidd Cymru, Gweithrediaeth GIG Cymru

Cyflwyniad

Y prif bethau oedd yn ysgogi newid oedd y nod o wella cydymffurfiad â Safon Ansawdd y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Rhagoriaeth Glinigol (NICE), gwella canlyniadau clinigol, lleihau arosiadau mewn ysbytai, a lleihau’r costau fesul achos.  Mae canllawiau NICE yn argymell angiograffeg coronaidd o fewn 72 awr i gleifion NSTEACS risg uchel, ond dim ond 18% oedd canran cydymffurfio ysbytai Cymru. Roedd y data cychwynnol yn dangos cydymffurfedd isel ac amrywiadau na ellir eu cyfiawnhau.

Roedd hyn yn arwain at arosiadau hirach yn yr ysbyty, costau uwch a chanlyniadau gwaeth i gleifion pan oedd oedi cyn cael angiograffeg. Y nod oedd lleihau'r amser o’r adeg pan gaiff claf ei dderbyn i pan mae’n cael angiograffeg, a hynny o 50%, gan fynd i'r afael â diogelwch, prydlondeb, effeithiolrwydd, effeithlonrwydd a thegwch mewn gofal.


Dulliau

  • Ymgysylltwyd â rhanddeiliaid ac arbenigwyr yn y pwnc. 
  • Defnyddiwyd methodoleg gwella ansawdd (QI) ar gyfer prosiect gyda chwmpas cyfyngedig mewn dau ysbyty. 
  • Sicrhau bod pethau’n gynaliadwy o ran lles staff, canlyniadau cleifion, ffactorau economaidd, a pharhad y prosiect. 
  • Cafwyd data deinamig cywir, wrth fesur yr amser o dderbyn y claf i gael angiograffeg. 
  • Ffurfiwyd timau amlddisgyblaethol o'r ddau ysbyty, gan gynnwys gweithwyr gofal iechyd proffesiynol amrywiol a staff cymorth. 
  • Roedd y cyfarfodydd ymgysylltu yn cynnwys cyflwyno data gwaelodlin, mapio prosesau, taflu syniadau, a blaenoriaethu syniadau ar gyfer gwella’r sefyllfa. 
  • Defnyddiwyd dadansoddiadau Pareto i nodi achosion sylfaenol. 
  • Profwyd syniadau gwybodus arbenigwyr ar y pwnc trwy gylchoedd PDSA a'u haddasu yn seiliedig ar ddadansoddi data parhaus. 

Canlyniadau

  • Trwy gyfuno PDSA, cafwyd gostyngiad o 45% yn yr amser cyfartalog o pan gaiff claf ei dderbyn i gael angiograffeg, gan gyflawni 94.72 awr o'i gymharu â'r safon 72 awr. 
  • Cynyddodd ymgysylltiad y staff yn sylweddol. 
  • Gwell dealltwriaeth o’r newidiadau sydd eu hangen ar draws y system ar gyfer creu llwybr clinigol ar draws dau ysbyty. 
  • Dysgodd timau rheng flaen sut i ddatrys problemau gan ddefnyddio dadansoddiadau Pareto, gan eithrio tueddiadau ac anecdotau. 
  • Llwyddodd timau a oedd yn amheus ar y dechrau i wella heb adnoddau ychwanegol, gan werthfawrogi methodoleg QI. 
  • Fe wnaeth costio llwybrau cyn ac ar ôl y gwelliannau hwyluso’r gwaith o ailddyrannu adnoddau ar gyfer llwybrau clinigol cynaliadwy. 
  • Dangos gofal iechyd sy'n seiliedig ar werth gyda’r posibilrwydd o fod o fudd y tu hwnt i gleifion cardioleg. 

Dysgu

  • Pwysigrwydd newid o ddata statig i ddata deinamig. 
  • Cydnabod nad oes gan dimau rheng flaen fynediad at ddata parhaus dros amser. 
  • Anawsterau ar lefel yr arweinyddiaeth o ran ceisio cael data angenrheidiol. 
  • Sut i sicrhau llif data parhaus wrth symud ymlaen i gasglu gwybodaeth ar gyfer newid pellach. Y cyfyngiadau a welwyd: pwysau amser, staffio annigonol, capasiti o ran gwelyau a labordy angiograffeg, a gofynion amrywiol cleifion.  

Beth nesaf?

  • Gwella prosesau casglu data: Ap ACS i fod i fynd yn fyw ar draws byrddau iechyd  
  • Cyfle i Ledaenu ac Addasu i ysbytai eraill a chanolfannau cardiaidd trydyddol ledled Cymru.  

Cysylltiadau

jonathan.goodfellow2@wales.nhs.uk