Neidio i'r prif gynnwy

Gwella iechyd a lles cleifion â llid yr isgroen

Melanie Thomas, Cyfarwyddwr Clinigol Lymffoedema Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe 

Cyflwyniad

Gall llid yr isgroen, haint croen bacteriol, arwain at dderbyniadau brys a sepsis os na chaiff ei drin yn brydlon. Mae derbyniadau i'r ysbyty ac ymweliadau â meddygon teulu oherwydd llid yr isgroen yn cynyddu, gyda 1.7% o dderbyniadau brys yn 2021-2022 wedi'u priodoli i lid yr isgroen.

Yng Nghymru, mae llid yr isgroen yn achosi dros 32,000 o ddyddiau gwely a 200,000 o ymweliadau â meddygon teulu bob blwyddyn, gan gostio dros £28 miliwn. Mae gwella ansawdd gofal drwy ddulliau sy'n seiliedig ar dystiolaeth, sy'n canolbwyntio ar y claf ac sy’n lleihau gwastraff a niwed yn hanfodol. Y nod oedd sicrhau gostyngiad o 10% mewn achosion o ail-heintiad llid yr isgroen yn flynyddol ymhlith 7,000 o gleifion GIG Cymru drwy addysg a thriniaeth effeithiol.


Dulliau

  • Adnabod yr angen am welliant a gweithredu newid wedi'i gynllunio. 
  • Cyfathrebu â rhanddeiliaid allweddol.
  • Canolbwyntio ar gasglu data dibynadwy, seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer monitro newid. 
  • Creu tair swydd ar gyfer Rhaglen Genedlaethol Gwella Llid yr Isgroen (NCIP). 

Amcanion: 

  • Adnabod yn gynnar ac asesu cleifion llid yr isgroen yn gywir. 
  • Triniaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth a darparu gwasanaeth yn deg. 
  • Defnyddio adnoddau'n effeithlon a chofnodi gwerthoedd cleifion trwy Fesurau Canlyniadau a Adroddir gan Glaf (PROMS) a Mesurau Profiad a Adroddir gan Glaf (PREMS). 
  • Cydnabod a pharchu anghenion diwylliannol ac amrywiaeth. 
  • Darparu addysg sy'n seiliedig ar dystiolaeth. 

Nodau: 

  1. Lleihau nifer yr achosion o ail-heintiad llid yr isgroen. 
  2. Lleihau costau GIG ar ail-heintiad llid yr isgroen. 
  3. Cefnogi addysg mewn Gofal Sylfaenol ac Eilaidd. 
  4. Datblygu PROM ar gyfer llid yr isgroen. 

Canlyniadau

  • Ers mis Ebrill 2020, mae 28,000 o unigolion wedi derbyn taflen i leihau risg llid yr isgroen a bron i 7,000 wedi cwblhau NCIP. 
  • Mae Mesurau Canlyniad a Adroddir gan Glaf (PROM) yn dangos gwelliannau sylweddol o ran canlyniadau ac ansawdd bywyd. 
  • Gostyngodd NCIP gyfraddau ail-heintiad llid yr isgroen o 5,337 i 163, derbyniadau o 2,955 i 31, a hyd arhosiad o 22,870 diwrnod i 164 diwrnod, gan arbed dros £15 miliwn. 
  • Mae pob claf llid yr isgroen a dderbynnir i’r ysbyty yn derbyn deunyddiau addysgol ac opsiynau ymgynghori clinigol. 
  • Rhagorwyd yn sylweddol ar y nod cychwynnol i leihau cyfraddau ail-heintiad 10%. 
  • Cynhaliodd NCIP 230 o sesiynau addysgol, gan roi hyfforddiant i 1,500 o weithwyr iechyd proffesiynol yng Nghymru am lid yr isgroen. 

Dysgeidiaeth

  • Roedd lansio ar draws yr holl fyrddau iechyd yn heriol oherwydd llywodraethu amrywiol.
  • Roedd SOPs a Phroffiliau Buddion clir yn hollbwysig.
  • Roedd adroddiadau pwrpasol i Weithredwyr yn cyflymu NCIP i Ofal Sylfaenol.
  • Roedd data, yn enwedig PROMs, yn hanfodol i ddangos gwerth.
  • Dylai fod wedi ystyried rhaglen ddigidol genedlaethol ar gyfer cipio data.

Beth nesaf?

  • Integreiddio NCIP mewn chwe bwrdd iechyd; bydd Powys yn gweithredu’r agwedd Gofal Sylfaenol yn fuan. 
  • Cydweithio â meddygon teulu a Fferyllwyr Gwrthficrobaidd i gynnwys cleifion â phresgripsiynau gwrthfiotig lluosog neu wrthfiotigau proffylactig tymor hir. 
  • Mae Cymru'n gosod cynsail byd-eang mewn gofal llid yr isgroen gyda model NCIP y gellir ei efelychu. 

Cysylltiadau

melanie.j.thomas@wales.nhs.uk