Neidio i'r prif gynnwy

Partneriaeth Gofal Diogel

Mae'r Bartneriaeth Gofal Diogel yn dwyn ynghyd partneriaid a rhanddeiliaid allweddol i gyflawni blaenoriaethau gwella ansawdd a diogelwch cenedlaethol ar draws GIG Cymru.

Drwy’r bartneriaeth, mae byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau yn cydweithio â Gweithrediaeth GIG Cymru, Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill i gyflawni blaenoriaethau ansawdd a diogelwch cenedlaethol ar draws ehangder gwasanaethau gofal iechyd er budd pobl yng Nghymru.

Sefydlwyd y Bartneriaeth Gofal Diogel yn wreiddiol ym mis Mawrth 2022 ac arweiniodd y cam cyntaf at greu’r Gydweithredfa Gofal Diogel.

Mae ail gam y bartneriaeth, a lansiwyd ym mis Mai 2025, wedi'i chynllunio ar y cyd â chydweithwyr ar draws GIG Cymru, cyfranwyr cyhoeddus sy'n cynrychioli defnyddwyr gwasanaethau, y boblogaeth ehangach, a rhanddeiliaid allweddol eraill.

Blaenoriaethau’r bartneriaeth

Mae ffrydiau gwaith y Bartneriaeth Gofal Diogel yn canolbwyntio ar flaenoriaethau gwella ansawdd a diogelwch allweddol sydd wedi'u nodi ar y cyd gan Fyrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau, Gweithrediaeth GIG Cymru a Llywodraeth Cymru.

Bydd y bartneriaeth yn datblygu dros amser yn unol â blaenoriaethau ansawdd a diogelwch newydd wrth iddynt ddod i'r amlwg. Mae ffrydiau gwaith wedi'u seilio ar ddulliau rheoli ansawdd, ac yn cydnabod nad yw dulliau gwella ansawdd ar eu pen eu hunain yn debygol o arwain at welliant cynaliadwy.

Dyma’r meysydd ffocws presennol:

Mae Fframwaith Gofal Diogel, Dibynadwy ac Effeithiol (SREC) y Sefydliad Gwella Gofal Iechyd yn ffocws allweddol ar draws ffrydiau gwaith y Bartneriaeth Gofal Diogel, ac yn darparu galluogwyr allweddol ar gyfer llwyddiant y gwaith o fewn y bartneriaeth.

Mae'r fframwaith yn nodi'r elfennau rhyng-gysylltiedig sydd eu hangen i greu amgylchedd sy'n galluogi gwella, ac yn dwyn ynghyd y cysyniadau strategol, clinigol a gweithredol sy'n hanfodol ar gyfer sicrhau gofal diogel, dibynadwy ac effeithiol.

Rydym yn creu Hwb SREC, a fydd yn darparu amrywiaeth o adnoddau i gynorthwyo dealltwriaeth o'r fframwaith ac arwain timau i wneud cynnydd ar draws ei elfennau.

Newyddion diweddaraf