Neidio i'r prif gynnwy

Adnoddau i Ymarferwyr

Isod cewch ddolenni i amrywiaeth o adnoddau a dogfennau ar atal hunanladdiad a hunan-niwed.

Ceir dolenni i adnoddau iechyd meddwl cyffredinol ar ein tudalen Adnoddau Rhwydwaith Iechyd Meddwl.

Mae'r Gynghrair Atal Hunanladdiad Genedlaethol ac Iechyd Cyhoeddus Lloegr wedi cydweithio i gynhyrchu cynllunio atal hunanladdiad lleol – adnodd ymarferol (Ionawr 2020), i helpu asiantaethau lleol, gan gynnwys awdurdodau lleol, i ddatblygu eu strategaethau a'u cynlluniau gweithredu atal hunanladdiad lleol.

Cydgysylltwyr Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed Rhanbarthol
 
Y Gogledd

David Patel, Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr
David.Patel@wales.nhs.uk

Y Canolbarth a’r Gorllewin

Laura Tranter, Bwrdd Iechyd Hywel Dda
Laura.Tranter@wales.nhs.uk

Y De-ddwyrain

Ceri Fowler, Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro
Ceri.Fowler2@wales.nhs.uk

Fforymau rhanbarthol

Mae tri fforwm rhanbarthol: 

  • Gogledd Cymru (Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr)
  • Canolbarth a Gorllewin Cymru (Byrddau Iechyd Hywel Dda, Bae Abertawe a Phowys)
  • De Ddwyrain Cymru (Byrddau Iechyd Caerdydd a'r Fro, Cwn Taf Morgannwg ac Aneurin Bevan).  

Mae'r cylch gorchwyl ar gyfer pob fforwm yn seiliedig ar y templed hwn

Lawrlwythwch ein 'Cynllun ar Dudalen' 2020 - 2022

Ceir rhagor o wybodaeth am ddata a thystiolaeth sy'n ymwneud ag Iechyd Meddwl, gan gynnwys hunanladdiad a hunan-niwed (2017) ar wefan Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Cyflwynwyd y tîm cenedlaethol a rhanbarthol ar gyfer atal hunanladdiad a hunan-niwed yn ystod y pandemig COVID-19.  gan sefydlu eu rolau trwy gyfnodau estynedig o o bellhau cymdeithasol, cyfnodau clo cenedlaethol, a gweithio yn y cartref. Yn ystod y cyfnod hwn, cafodd y strategaeth genedlaethol 'Siarad â fi 2', a oedd i ddod i ben yn 2020, ei hymestyn i 2022 gan Lywodraeth Cymru gyda chynllun cyflawni iechyd meddwl ac atal hunanladdiad diwygiedig (2019-2022).

Er mwyn adnewyddu’r ffocws ar flaenoriaethau, gweithiodd arweinydd y rhaglen genedlaethol ar y cyd ag asiantaethau arweiniol eraill i adolygu’r llenyddiaeth a thirlun polisi, ac i ddatblygu cynllun rhaglen i gefnogi’r gwaith o gyflawni’r uchelgeisiau a nodir yn ‘Siarad â fi 2’, yng ngoleuni'r capasiti ychwanegol a ddarperir gan y tîm atal.

Lawrlwythwch cynllun y rhaglen yma
Lawrlwythwch ein cynllun ar dudalen ar gyfer 2020-2022

Un o’r allbynnau a gyflwynwyd gan y tîm atal hunanladdiad a hunan-niwed newydd fu llwyfan digidol neu ‘gartref digidol’ ar gyfer atal hunanladdiad a hunan-niwed yng Nghymru , gyda ffocws ar gynigion dysgu a datblygu i weithluoedd, yn rhai cyflogedig a gwirfoddol, ar draws pob sector yng Nghymru.

Mae’r platfform hwn yn darparu gwybodaeth a dolenni sy’n ymwneud â’r sylfaen dystiolaeth, canllawiau NICE, cynigion dysgu a datblygu gan ystod eang o ddarparwyr hyfforddiant, gwybodaeth am fythau a chamsyniadau poblogaidd am hunanladdiad a hunan-niwed, a’r defnydd o iaith.

Gweminar wedi cyflwyno gan yr Athro Nav Kapur ar ganllawiau NICE ar gyfer hunan-niweidio