Mae’r Rhwydwaith Iechyd Meddwl yn gweithio ar ran Llywodraeth Cymru i wella ansawdd a darpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru.
Mae hyn yn golygu datblygu fframwaith canlyniadau integredig, a fydd yn cyd-fynd â strategaeth ‘Law yn Llaw at Iechyd Meddwl’ Llywodraeth Cymru,
Bydd y fframwaith yn nodi'r canlyniadau allweddol ar gyfer gwella iechyd meddwl ar gyfer pob oedran - beth mae iechyd meddwl a darpariaeth gwasanaethau da yn edrych fel - ac yn nodi gweithgareddau lleol y gellid eu gwneud i'w cyflawni.
Rydym yn mabwysiadu ymagwedd gydweithredol, gan weithio gyda phobl sy’n defnyddio neu a allai ddefnyddio gwasanaethau iechyd meddwl, teuluoedd, gofalwyr i sicrhau eu bod yn bodloni anghenion a disgwyliadau’r gymuned ehangach.
Rhan allweddol o’r gwaith hwn yw astudiaeth sy’n cael ei chynnal gan Brifysgol De Cymru i gasglu safbwyntiau gan bobl sy’n defnyddio ac yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru ar yr hyn y mae angen i’r fframwaith ei gynnwys.
Rydym yn awyddus iawn bod ystod eang o safbwyntiau a phrofiadau yn cael eu cynrychioli. Bydd yr astudiaeth yn rhan hanfodol o nodi a chytuno ar y canlyniadau a’r mesurau lleol a chenedlaethol sydd eu hangen i wella gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru.
Mae'r fideo byr isod yn egluro beth mae cymryd rhan yn yr astudiaeth yn ei olygu a sut bydd y wybodaeth yn cael ei chasglu a'i defnyddio.