Mae Rhaglen Iechyd Meddwl Amenedigol Cymru yn pennu pa gamau y bydd ymarferwyr yn eu cymryd er mwyn sicrhau bod iechyd meddwl a llesiant menywod a’u teuluoedd – sef menywod sy’n bwriadu mynd yn feichiog ac sydd eisoes yn feichiog, a hefyd y cyfnod yn dilyn yr enedigaeth hyd nes y bydd eu baban yn flwydd oed – yn cael eu cefnogi.
Mae’r rhaglen yn cynnig trosolwg a chrynodeb o’r gwaith ymchwil a’r argymhellion ar gyfer newid a’r llwybrau y mae model ‘paru gofal’, seiliedig ar anghenion, yn sail iddynt, lle nodir y camau disgwyliedig o ofal cyffredinol, sylfaenol ac eilaidd ac ymlaen i ofal trydyddol.
Bydd y llwybrau’n cynnig arweiniad i bob ymarferydd a ddaw i gysylltiad â menywod sy’n bwriadu mynd yn feichiog, sydd eisoes yn feichiog neu sydd wedi rhoi genedigaeth ac sydd â baban dan flwydd oed, ynghyd a’u teuluoedd, ym mhob lleoliad.
Yn hanesyddol, mae yna ddiffyg gofal iechyd meddwl a gofal corfforol integredig a theg ar gyfer menywod yn ystod eu beichiogrwydd a’r wythnosau a’r misoedd ar ôl iddynt roi genedigaeth, ynghyd â diffyg gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol arbenigol.
Yn 2017, lansiodd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad Cenedlaethol ymchwiliad i iechyd meddwl amenedigol yng Nghymru, fel rhan o’i waith ar Y 1000 Diwrnod Cyntaf a’r cysylltiad rhwng iechyd meddwl gwael rhieni a’r effaith ar iechyd a datblygiad plant. Canolbwyntiodd yr ymchwiliad ar ddull Llywodraeth Cymru o ymdrin ag iechyd meddwl amenedigol, patrymau gofal cleifion mewnol, lefel y ddarpariaeth arbenigol, llwybrau clinigol, integreiddio iechyd meddwl amenedigol, clymau agosrwydd ac ymlyniad, ac anghydraddoldebau iechyd.
Bu’r ymchwiliad hwn yn bwysig iawn o ran ysgogi newid yng Nghymru gan ei fod wedi cyflwyno tystiolaeth ynghylch datblygiadau mewn darpariaethau amenedigol a phennu 27 o argymhellion allweddol ar gyfer gwella iechyd meddwl amenedigol.
Yn 2019, penodwyd Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl Amenedigol ac aethpwyd i’r afael â rhagor o waith ar ddatblygu Rhwydwaith Clinigol i Gymru, gyda’r rhwydwaith hwn yn hollbwysig o ran bwrw ymlaen â’r cynnydd yng Nghymru.
Mae’r datblygiadau cenedlaethol hyn wedi parhau i gydnabod cyffredinrwydd ac effaith problemau iechyd meddwl amenedigol ar fenywod a’u teuluoedd ledled Cymru.