Gall siarad a rhannu eich pryderon â rhywun y gallwch ymddiried ynddo wneud y byd o wahaniaeth i’r ffordd rydych chi’n teimlo.
Mae gwasanaethau cymunedol yn dal i fod ar agor i’ch cefnogi.
Gall y ffordd mae gwasanaethau’n cael eu cynnig amrywio - efallai y cewch chi ymweliad gartref, neu bydd rhywun yn cysylltu â chi dros y ffôn neu drwy alwad fideo.
Cofiwch mae’n hollol iawn i chi barhau i gysylltu â’ch bydwraig, eich ymwelydd iechyd neu eich meddyg teulu am gymorth ychwanegol neu cysylltwch â:
C.A.L.L. Llinell Gymorth lechyd Meddwl ar gyfer Cymru
Rhadffon 0800 132 737 neu anfonwch neges destun 'help' at 81066 (y codir y gyfradd rhwydwaith safonol amdani) - unrhyw amser, ddydd a nos
Magu Plant. Rhowch Amser Iddo
Gwybodaeth ymarferol, arbenigol am ddim
Info Engine a Dewis
Dod o hyd i wasanaethau yn eich cymuned
#YouMatterToUs
#TogetherWeCan
#WalesPNMHNetwork