Canser yr ysgyfaint yw prif achos marwolaethau canser yng Nghymru, ac mae’n achosi mwy o farwolaethau na chanser y fron a chanser y coluddyn gyda’i gilydd.
Mae tystiolaeth o hap-dreialon rheoledig yn dangos y gall sgrinio unigolion sydd â risg uchel gyda CT dos isel wella canlyniadau. Mae Treial Sgrinio Cenedlaethol yr Ysgyfaint a NELSON yn ddau hap-dreial rheoledig mawr sy’n dangos gostyngiad cymharol o 20% neu fwy mewn marwolaethau o ganser yr ysgyfaint gyda sgrinio CT dos isel mewn unigolion risg uchel. Gellir darparu sgrinio CT dos isel ar gyfer canser yr ysgyfaint o dan faner “Gwiriad Iechyd yr Ysgyfaint”.
Ym mis Chwefror 2019, cymeradwyodd y Grŵp Gweithredu Canser gyllid i gynnal adolygiad i archwilio’r potensial ar gyfer Archwiliadau Iechyd yr Ysgyfaint (LHCs) yng Nghymru. Ym mis Medi 2019, penododd Rhwydwaith Canser Cymru Arweinydd Clinigol (Dr Sinan Eccles, Meddyg Ymgynghorol yr Ysgyfaint), Rheolwr Prosiect (Claire Wright) ac Uwch Swyddog Cymorth Prosiect (Roya Yadollahi) i arwain yr adolygiad hwn. Cwblhawyd yr adroddiad yn ystod tymor yr hydref 2020 a gwnaeth argymhellion ar gyfer y camau nesaf i Gymru, gan gynnwys:
Mae’r adroddiad llawn i'w weld yma.
Mae’r gwaith cynllunio i gyflwyno’r peilot wedi symud ymlaen ers hynny mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Tâf Morgannwg, lle bydd y gwasanaeth yn cael ei ddarparu. Fel trosolwg, mae’r peilot yn cynnig apwyntiadau gwirio iechyd yr ysgyfaint dros y ffôn i drigolion cymwys, 60-74 oed sydd wedi ysmygu rywbryd, o bractisau meddygon teulu dethol yng Ngogledd y Rhondda. Yn ystod yr apwyntiad hwn gofynnir cyfres o gwestiynau, a chynigir sgan CT sgrinio dos isel o'r ysgyfaint i’r rheinyy nodir eu bod mewn perygl uwch o ddatblygu canser yr ysgyfaint. Cynigir cymorth rhoi'r gorau i ysmygu i bob un sy’n dal i ysmygu.
Mae'r peilot ar y gweill, gyda'r gwahoddiadau cyntaf yn cael eu hanfon yn gynnar ym mis Awst 2023 a sganiau CT dos isel yn cael eu cynnal o ddiwedd mis Medi 2023. Nod y peilot yw cynnig sganiau CT dos isel i tua 500 o bobl a bwriedir defnyddio'r hyn a ddysgir o hyn i lywio unrhyw ehangu pellach o’r gwasanaeth yn y dyfodol yng Nghymru. Mae rhagor o wybodaeth am y peilot ar gael ar wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Tâf Morgannwg: Archwiliadau Iechyd yr Ysgyfaint - Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (nhs.wales)