Mae Gofal sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn (PCC) yn flaenoriaeth i’r Grŵp Gweithredu ar Ganser a amlygwyd yng Nghynllun Cyflawni ar gyfer Canser 2016/2020.
Mae'r is-grŵp hwn yn tynnu sylw at yr angen strategol i wella'r dull cyfannol cyffredinol o helpu pobl â chanser gydol eu profiad, gyda phwyslais ar bartneriaeth ar draws y sectorau gofal.
Diben y grŵp yw datblygu safonau a mesurau ar gyfer adolygu cynnydd byrddau iechyd, ymddiriedolaethau a thimau amlddisgyblaethol, gan gynnwys y rhai sy'n croesi ffiniau sefydliadol, wrth ddarparu gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Bydd y mesurau hyn yn rhoi sicrwydd ansawdd, trwy gyfrannu at Fframwaith Perfformiad Canser Cymru.
Bydd yr is-grŵp yn rhannu ac yn lledaenu datblygiadau gwasanaeth ar draws sectorau gofal yng Nghymru er mwyn hyrwyddo a sefydlu dull arferion gorau cyson o ymdrin â gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.
Mae'r is-grŵp hwn wedi'i gyd-gadeirio gan Swyddog Arweiniol Gweithiwyr Proffesiynol Perthynol i Ganser neu Nyrs Rhwydwaith Canser Cymru a Chadeirydd Cynghrair Canser Cymru.
Os hoffech gysylltu ag aelod o dîm prosiect PCC i gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch: PCC.SubGroup@wales.nhs.uk a bydd aelod o'r tîm yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl.