Cefnogir y Rhwydwaith Clinigol Strategol Cenedlaethol ar gyfer Canser gan y Tîm Gwybodaeth a Deallusrwydd. Mae'r tîm yn cynnwys yr Arbenigwyr Gwybodaeth sy'n rhoi cymorth gweithredol i Fyrddau Iechyd gyda chanllawiau ffyrdd o weithio ar gyfer System Gwybodaeth Rhwydweithiau Canser Cymru (CaNISC) a'r Ffurflenni Setiau Data Canser sydd newydd eu gweithredu. Mae'r tîm hefyd yn cefnogi Byrddau Iechyd trwy gyflwyno gwybodaeth i'r Archwiliadau Canser Cenedlaethol ar eu rhan. Mae’r gweithgareddau hyn yn ymestyn i gefnogi Byrddau Iechyd i gasglu, dilysu a dadansoddi’r data ar gyfer cleifion sydd newydd gael diagnosis o ganser.
Mae gan y “Cynllun Gwella Canser ar gyfer GIG Cymru 2023-2026” nifer o flaenoriaethau allweddol ar gyfer gwybodaeth a deallusrwydd, fel y’u rhestrir isod:
Fersiwn ar ganser Strategaeth Ddigidol y GIG wedi'i diweddaru
Map ffordd i fynd i'r afael â mater seilos data canser
Y Fframwaith Perfformiad Canser wedi'i adnewyddu
Archwiliadau Cenedlaethol
Gweithredu’n llwyddiannus y ffurflenni setiau data canser
Mae’r blaenoriaethau hyn yn cael eu datblygu drwy nifer o ffrydiau gwaith a phrosiectau ar y cyd â Rhwydwaith Canser Cymru, Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW), Llywodraeth Cymru, Uned Gwybodaeth ac Arolygiaeth Canser Cymru (WCISU) a Byrddau Iechyd.
Er mwyn sicrhau dull cydgysylltiedig, mae Goruchwylio Strategol Casglu Data ac Adrodd ar Ganser a hwylusir gan y Rhwydwaith Clinigol Strategol Cenedlaethol ar gyfer Canser yn goruchwylio popeth.
Gwybodaeth Busnes
Nod swyddogaeth prosiect y Rhwydwaith Canser ar Wybodaeth Busnes yw rhoi golwg genedlaethol ar lwybrau canser ledled Cymru drwy ddangosfyrddau rhyngweithiol y gall pob Bwrdd Iechyd a thîm y Rhwydwaith Canser eu defnyddio.
Mae’r dangosfyrddau wedi’u datblygu i ddarparu cyfres o offer sy’n gyfoethog o ran data i ddangos darlun canser Cymru gyfan yn ôl safle’r tyfiant.
Mae’r gyfres hon o offer gwybodaeth yn darparu ffynonellau data er mwyn hwyluso’r broses o wella gwasanaethau, drwy roi’r wybodaeth a’r mewnwelediad sydd eu hangen ar y rhai sy’n gwneud penderfyniadau i sicrhau ansawdd a diogelwch gofal – gan wella canlyniadau cyffredinol cleifion ar gyfer poblogaeth Cymru.
Dolenni i adnoddau eraill:
Uned Gwybodaeth ac Arolygaeth Deallusrwydd a Gwyliadwriaeth Canser Cymru (WCISU) - mae WCISU yn cynhyrchu cyhoeddiadau Ystadegau Swyddogol blynyddol ar ddigwydded, marwolaethau a’r goroesiad sy’n gysylltiedig â chanser ar gyfer Cymru:
Perfformiad a Sicrwydd – Adnoddau Canser – amrywiaeth o gynhyrchion sy’n edrych ar ddangosyddion perfformiad allweddol ar gyfer canser ledled Cymru:
Archwiliadau Cenedlaethol
Nod yr Archwiliadau Canser Cenedlaethol: Archwiliad clinigol i werthuso ansawdd y gofal a ddarperir i gleifion canser yng Nghymru a Lloegr; trwy gasglu data manwl i ddeall ymhellach holl lwybrau canser penodol i safle cleifion
Ar hyn o bryd mae Cymru'n cymryd rhan yn y Rhaglen Archwilio Clinigol Genedlaethol a Chanlyniadau Cleifion (NCAPOP) sy'n rhan o’r ganolfan ragoriaeth genedlaethol newydd, sef y Ganolfan Gydweithredu Genedlaethol ar gyfer Archwilio Canser (NATCAN) a gomisiynwyd gan y Bartneriaeth Gwella Ansawdd Gofal Iechyd (HQIP). Ei nod yw:
• Darparu tystiolaeth reolaidd ac amserol i wasanaethau canser o ble mae patrymau gofal yng Nghymru a Lloegr yn amrywio
• Cefnogi gwasanaethau'r GIG i nodi'r rhesymau dros yr amrywiaeth mewn gofal er mwyn llywio mentrau gwella ansawdd
• Ysgogi gwelliannau o ran canfod canser, y driniaeth a’r canlyniadau gan gynnwys goroesi.