Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw gwasanaeth RDC?

Mae’r gwasanaethau RDC yng Nghymru yn seiledig ar fodel a ddatblygwyd yn Nenmarc ac a gafodd ei dreialu o 2017-9 gan bartneriaeth rhwng Rhwydwaith Canser Cymru, Byrddau Iechyd Bae Abertawe a Chwm Tâf Morgannwg; dangosodd y gwasanaethau peilot for yr RDC yn cynnig ateb cost-effeithiol i’r uchelgais o wella canlyniadau cleifion. Mae gwasanaethau RDC Cymru yn darparu llwybr amserol a chyfannol at ddiagnosis ar gyfer cleifion â symptomau annelwig nad ydynt yn bodloni’r meini prawf ar gyfer atgyfeiriad lle mae amheuaeth o ganser penodol, oherwydd absenoldeb symptomau “baner goch” clir. Dangosodd y gwasanaethau peilot hefyd fod yr RDC yn effeithiol wrth wneud diagnosis cyflym o ystod o gyflyrau iechyd difrifol eraill yn ogystal â rhoi tawelwch meddwl prydlon i’r rhai heb unrhyw ddiagnosis arwyddocaol.  Maent felly’n cyfrannu at weledigaeth “Cymru Iachach”.

Yn fyr, pwrpas yr RDC yw:

  • Cefnogi diagnosis cynharach i gleifion â symptomau annelwig, amhenodol a allai fod yn ganser
  • Lleihau nifer y canserau sy’n cael diagnosis yn yr adran achosion brys
  • Gwella canlyniadau cyffredinol cleifion trwy ganfod canser yn gynt
  • Gwella profiad cleifion a’u meddygon teulu
  • Diagnosio a rheoli clefydau difrifol eraill nad ydynt yn ganser neu’r rhai sydd mewn perygl o ddatblygu salwch difrifol.