Neidio i'r prif gynnwy

Yr RDC yn Gwneud Gwahaniaeth i Gleifion Ledled Cymru

Cyn sefydlu’r gwasanaethau RDC yng Nghymru, byddai gan y cleifion hyn o bosibl brofiad gwaeth, diagnosis diweddarach a chanlyniadau gwaeth o’u cymharu â chleifion eraill a gyfeiriwyd ar lwybrau tiwmor-benodol traddodiadol. Mae’r model RDC yn mynd i’r afael â’r anghydraddoldeb hwn yng Nghymru drwy gynnig Llwybr Symptomau Annelwig i gleifion â symptomau amhenodol sy’n peri pryder a allai awgrymu bod canser.

Yn dilyn llwyddiant y cynlluniau peilot, cydweithiodd Rhwydwaith Canser Cymru â chydweithwyr a sefydliadau o bob rhan o GIG Cymru i sefydlu rhaglen genedlaethol o wasanaethau RDC i Gymru gyfan. Bellach mae gwasanaeth RDC wedi ei sefydlu mewn 5 o’r 7 Bwrdd Iechyd Cymreig, gyda RDC Caerdydd a’r Fro yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd (gyda’r nod o fynd yn fyw yn fuan iawn) a chleifion Powys yn cael mynediad i wasanaethau RDC mewn Byrddau Iechyd cyfagos.