Neidio i'r prif gynnwy

Gwenwyndra Imiwnotherapi

Grŵp Gwenwyndra Imiwnotherapi Cymru Gyfan

Cafodd Grŵp Gwenwyndra Imiwnotherapi Cymru Gyfan ei sefydlu gan Rwydwaith Canser Cymru fel is-grŵp o Grŵp Gwasanaeth Oncoleg Acíwt Cymru Gyfan (AOS) a Grŵp Therapi Systemig Gwrth-Ganser Cymru Gyfan (SACT). Ei nod yw cynnig arweiniad strategol ar gyfer blaenoriaethau gwenwyndra imiwnotherapi a fforwm ar gyfer cadarnhau holl ddatblygiadau Cymru gan alluogi dull cydgysylltiedig o ddarparu gwasanaethau.

Fforwm Cenedlaethol Addysg Imiwno-Oncoleg (IO)

Mae'r fforwm cenedlaethol addysg imiwno-oncoleg yn grŵp amlddisgyblaethol a sefydlwyd gan Helen Winter, Ymgynghorydd o Ganolfan Haematoleg ac Oncoleg Bryste, a Ricky Frazer, Ymgynghorydd yng Nghanolfan Ganser Felindre Caerdydd. Mae wedi tyfu i fwy na 100 o gydweithwyr o bob rhan o'r DU sy'n dod at ei gilydd unwaith y mis i drafod pynciau sy'n gysylltiedig ag imiwnotherapi. Mae'r pynciau a drafodwyd eisioes yn cynnwys cydnabod myasthenia gravis, rheoli colitis ac adolygu canllawiau cenedlaethol steroidau. Mae'r Fforwm Addysg IO Cenedlaethol yn agored i bob gweithiwr gofal iechyd proffesiynol waeth beth fo'u profiad; yr unig ddisgwyliad yw diddordeb mewn imiwnotherapi ac awydd i wella gofal cleifion. Cynhelir y cyfarfodydd yn rhithiol trwy Microsoft Teams ar ddydd Iau cyntaf pob mis yn ddi-fael am 1 o’r gloch ac yn para dim mwy nag awr. Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â'r Fforwm hon, cysylltwch â Ricky a'r tîm ar VCCNational.IOEducationForum@wales.nhs.uk