Neidio i'r prif gynnwy

Achub Bywyd a diffibrillio

Trwy dreulio ychydig o funudau yn dysgu'r sgiliau adfywio cardio-pwlmonaidd sylfaenol, gallwch roi'r cyfle i rywun fyw. Gallai fod yn rhywun yn eich teulu, yn ffrind, yn gymydog, yn gydweithiwr neu'n rhywun sy’n digwydd cerdded heibio.  

Mae ataliad y galon yn argyfwng meddygol ond trwy ddefnyddio rhywfaint o sgiliau cymorth cyntaf sylfaenol gallwch dreblu siawns unigolyn o oroesi ataliad y galon. Ar hyn o bryd, dim ond 30% - 40% o'r bobl sy'n cael ataliad y galon yn y gymuned fydd yn cael triniaeth CPR gan rywun sydd gerllaw. 

Mae Achub Bywyd Cymru yn annog pawb yng Nghymru i ddysgu sgiliau adfywio cardio-pwlmonaidd, naill ai ar-lein neu drwy hyfforddiant wyneb yn wyneb, fel eich bod chi, eich teulu a’r gymuned ehangach yn dod yn hyderus yn y camau y dylid eu cymryd pan fydd rhywun yn cael ataliad y galon. 

Mae CPR yn gymorth cyntaf sylfaenol sy'n gallu achub bywyd ac mae'n rhaid ei ddechrau ar unwaith. Nid oes angen unrhyw hyfforddiant arnoch i wneud CPR, a gall rhywun fel y derbynydd galwadau 999 ei egluro wrthych.

Mae siawns rhywun o oroesi ataliad y galon yn y gymuned yn gostwng hyd at 10% gyda phob munud sy'n mynd heibio; po hiraf yw'r oedi cyn adfywio, y gwaethaf yw'r canlyniad.  Trwy berfformio adfywio cardio-pwlmonaidd, rydych chi'n gwneud gwaith y galon.  Dylech ddal ati nes y bydd diffibriliwr a chymorth proffesiynol yn cyrraedd, neu os ydych wedi blino gormod i barhau.

I gael rhagor o wybodaeth am CPR a diffibrilio, ewch i wefan Cyngor Dadebru y DU. 

Gwefan Saesneg.