Mae ataliad sydyn y galon yn digwydd pan fydd y galon yn rhoi'r gorau i bwmpio gwaed o amgylch y corff yn annisgwyl.
Os yw rhywun yn cael ataliad y galon, mae’n rhoi'r gorau i anadlu neu i anadlu'n normal, nid yw'r galon yn gallu gweithio fel pwmp ac mae llif y gwaed i'r ymennydd ac i weddill y corff yn stopio.
Gall hyn ddigwydd am amryw o resymau, ac fel arfer, mae'n digwydd yn sydyn a heb unrhyw rybudd.
Gall ataliad sydyn y galon ddigwydd i unrhyw un, unrhyw oedran. Bob blwyddyn yng Nghymru, bydd dros 6,000 o bobl yn cael ataliad sydyn y galon y tu allan i ysbyty, a bydd oddeutu 80% o’r achosion hynny yn digwydd yn y cartref.
Os byddwch chi'n dod ar draws rhywun sy’n cael ataliad sydyn ar y galon - efallai mai CHI fydd yr unig obaith sydd ganddynt i allu goroesi.