Neidio i'r prif gynnwy

Sut gall diffibriliwr helpu?

Mae cyfarpar diffibrilio allanol awtomatig, a elwir hefyd yn ddiffibriliwr neu ‘defib’ yn Saesneg, yn ddyfais sy'n gallu rhoi sioc drydanol i rywun sy'n cael ataliad y galon.  Mae'n syml ac yn ddiogel i'w ddefnyddio ac nid oes angen unrhyw hyfforddiant arnoch.  Mae'n ddyfais glyfar iawn a bydd yn dweud wrthych yn union beth i'w wneud a phryd a sut i roi sioc ddiogel. 

Mae diffibrilwyr i'w cael mewn cymunedau ledled Cymru. Mae llawer o ddiffibrilwyr yn aml wedi'u lleoli mewn cypyrddau wedi'u gwresogi ar waliau allanol. Mae'r cabinet yn caniatáu mynediad 24 awr mewn argyfwng. 

Pan fyddwch yn ffonio 999, bydd y sawl sy'n derbyn yr alwad yn dweud wrthych ble mae'r diffibriliwr cofrestredig agosaf, ac os yw dan glo, bydd yn rhoi'r cod i chi agor y cabinet. Peidiwch byth â rhoi'r gorau i berfformio adfywio cardio-pwlmonaidd er mwyn mynd i nôl y diffibriliwr, anfonwch rywun arall bob amser.