Neidio i'r prif gynnwy

Newyddion

16/10/24
'Restart a Heart Live' yn torri Record Byd Guinness

Fe wnaeth 5,340 o bobl wylio ‘Restart a Heart Live’ ddydd Iau 10 Hydref ar YouTube. Torrodd hyn Record Byd Guinness blaenorol - sef 1,500 o wylwyr - y nifer fwyaf o wylwyr Gwers Adfywio Cardio-pwlmonaidd (CPR) ar YouTube mewn 24 awr.

15/10/24
"Fyddwn i ddim yma oni bai am weithredoedd cyflym fy nheulu"

Merch yn achub bywyd tad ar ôl iddo gael ataliad y galon.

Mae garddwr o Brestatyn yn ddyledus i'w deulu ar ôl i'w ferch a'i fab-yng-nghyfraith achub ei fywyd pan gafodd ataliad ar y galon.

09/08/24
Mae 95% o ddiffibrilwyr cymunedol bellach yn barod i achub bywyd mewn achos o ataliad y galon
07/03/24
Gŵr o gasllwchwr yn ôl yn chwarae golff chwe mis ar ôl bron â marw ar y cwrs

Roedd grŵp o ffrindiau o Gasllwchwr, Abertawe, yn edrych ymlaen at gêm o golff ar ddiwrnod heulog fis Medi diwethaf, ond doedden nhw ddim yn disgwyl achub bywyd eu ffrind. 

Cafodd Ian Hammond, 46 oed, ataliad ar y galon, ac fe syrthiodd yn anymwybodol yng nghanol y cwrs a bu bron iddo farw. 

Ond llai na chwe mis yn ddiweddarach, mae’n ôl ar y cwrs golff diolch i ymateb cyflym ei ffrindiau drwy CPR a diffibrilio. 

06/11/23
Aaron Ramsey yw llysgennad newydd Achub Bywyd Cymru

Mae seren pêl-droed Cymru, Aaron Ramsey, yn annog pobl i ddysgu sgiliau CPR a defib hanfodol wrth iddo gael ei enwi'n llysgennad Achub Bywyd Cymru i gefnogi ei feddyg tîm, a gollodd ei ferch 25 oed i ataliad ar y galon yn 2017. 

Mae chwaraewr canol cae Dinas Caerdydd a Chymru wedi'i ysbrydoli gan ei feddyg tîm, Len Nokes, sydd hefyd yn gadeirydd Achub Bywyd Cymru. 

15/09/23
Gosod diffibriliwr a chabinet newydd ar Draeth Bae Langland

Yn ddiweddar, mae Achub Bywyd Cymru wedi ariannu a gosod Diffibriliwr Mynediad Cyhoeddus (PAD) newydd ar Draeth Bae Langland yn lle’r hen offer. Dylai hyn helpu trigolion ac ymwelwyr â'r ardal i deimlo'n fwy diogel os bydd rhywun yn y gymuned yn cael ataliad y galon heb rybudd.