Neidio i'r prif gynnwy

Gŵr o gasllwchwr yn ôl yn chwarae golff chwe mis ar ôl bron â marw ar y cwrs

Roedd grŵp o ffrindiau o Gasllwchwr, Abertawe, yn edrych ymlaen at gêm o golff ar ddiwrnod heulog fis Medi diwethaf, ond doedden nhw ddim yn disgwyl achub bywyd eu ffrind. 
Cafodd Ian Hammond, 46 oed, ataliad ar y galon, ac fe syrthiodd yn anymwybodol yng nghanol y cwrs a bu bron iddo farw. 
Ond llai na chwe mis yn ddiweddarach, mae’n ôl ar y cwrs golff diolch i ymateb cyflym ei ffrindiau drwy CPR a diffibrilio. 

Gyda’r gyfradd goroesi ataliad y galon yng Nghymru yn llai na 5%, mae ffrindiau Ian, ynghyd ag Achub Bywyd Cymru, yn annog pobl eraill i ddysgu sgiliau CPR sy’n achub bywydau.

Roedd Andrew Thomas, Martin Powell, Tom Davies, Neil Bryant a Dave Hodson, sy’n aelodau o Glwb Golff Fairwood Park, i gyd wedi helpu i achub bywyd Ian ar ddiwrnod na fyddan nhw byth yn ei anghofio. 

Dywedodd Andrew, a roddodd CPR i Ian: “Roedd hi’n ddydd Sul arferol. Roedd rhywfaint ohonom ni wedi dod i’r clwb i chwarae’r bore hwnnw – roedd hi’n dywydd perffaith i chwarae golff. Wrth i ni fynd o amgylch y cwrs, roedd Ian yn cwyno bod ganddo boen yn ei frest, ond roedd yn meddwl mai camdreuliad oedd yn achosi’r boen, a daliodd ati i chwarae. 

“Ar ôl cyrraedd twll rhif 17, tarodd y bêl – yr ergyd gorau iddo daro i fod yn onest, ond y peth nesaf, syrthiodd o flaen ein llygaid. Syrthiodd fel coeden. Fe wnaeth Martin ei ysgwyd, ond doedd Ian ddim yn ymateb. Roeddwn i’n gwybod bryd hynny bod rhywbeth o’i le. 

“Dechreuais roi CPR, ffoniodd Tom 999 ac fe ddywedon nhw wrthyn ni am nôl diffib cofrestredig y clwb. Roeddwn i’n canolbwyntio’n llwyr yn yr eiliad honno. Fe wnes i roi CPR iddo am chwech neu saith munud a’r cyfan roeddwn i’n gallu meddwl amdano oedd bod angen i mi achub ei fywyd.” 

Bydd siawns person o oroesi’n gostwng hyd at 10% gyda phob munud sy’n mynd heibio os nad yw'n cael CPR neu ei ddiffibrilio. Yn ddiweddar, roedd Clwb Golff Fairwood Park wedi gosod tri diffib cofrestredig ar draws y cwrs, felly roedd modd i'r derbyniwr galwadau 999 gyfeirio’r dynion at yr un agosaf, a oedd, yn y pen draw, yn hanfodol i oroesiad Ian.  

Dywedodd Tom, a ffoniodd 999: “Dywedodd Andrew wrtha i am ffonio’r gwasanaethau brys. Roedden nhw ar yr uchel seinydd ac yn dweud beth oedd angen i ni ei wneud a ble'r oedd y diffib agosaf. Yn ffodus, roedd un gerllaw yn y clwb. Dwi’n credu bod hynny, a CPR gan Andrew, wedi achub ei fywyd. 

“Cafodd ei hedfan i Ysbyty Treforys yn Abertawe lle derbyniodd ofal gan y tîm meddygol. Pan oedd yn yr hofrennydd, syrthiais yn ôl. Doeddwn i ddim yn gallu siarad. Cymerodd amser hir i mi brosesu beth oedd wedi digwydd. 

“Roeddwn i’n meddwl fy mod i wedi colli fy ffrind. Roedd yn sefyllfa hunllefus. Dydw i byth eisiau bod mewn sefyllfa felly eto i fod yn onest. Roedd yn erchyll. Ond, mae’n rhaid i chi ganolbwyntio ar ddod â nhw yn ôl yn fyw.” 

Nod Achub Bywyd Cymru yw gwella cyfraddau goroesi ataliad y galon yng Nghymru, ac mae’n awyddus i fagu hyder pobl wrth roi CPR gyda’r ymgyrch ‘Cofiwch, Mae Help Wrth Law’. 

Ychwanegodd Tom: “Rydych chi’n gobeithio eich bod chi byth am fod yn y sefyllfa yma, ond y cyngor gorau y byddwn i’n ei roi yw i chi ymateb ar unwaith. Mae gwneud rhywbeth yn well na gwneud dim. Ffoniwch 999, a byddan nhw’n dweud wrthych chi’r hyn y mae angen i chi ei wneud. Roedden ni’n gallu gweithio fel tîm ac roedd pawb yn chwarae eu rhan fach eu hunain. 

“Roedd yn gyfnod emosiynol iawn. Rydych chi’n ceisio peidio â chynhyrfu ond rydych chi’n poeni’n llwyr hefyd. Fe gawson ni alwad tua wythnos yn ddiweddarach i ddweud bod Ian yn gwella’n dda. Roeddwn i mor falch; mae’n anhygoel ei weld yn ôl ar y cwrs gyda ni. Rydyn ni i gyd wrth ein boddau.”

Mae dros 6,000 o achosion ataliad ar y galon yn digwydd y tu allan i’r ysbyty yng Nghymru bob blwyddyn, i bobl o bob oedran. Ers y digwyddiad, mae dros 150 o aelodau’r clwb golff wedi cael hyfforddiant, ac mae’r dynion yn annog mwy o bobl i ddysgu sgiliau CPR a diffibrilio hanfodol. 

Dywedodd Andrew: “Mae pobl yn dweud wrtha i na fyddan nhw wedi gallu gwneud yr hyn wnaethon ni, ond dydy gwneud dim byd ddim yn opsiwn. Roeddwn i’n falch mod i wedi cael hyfforddiant CPR. Roeddwn i’n gyfarwydd â’r hyn yr oedd angen i mi ei wneud, ond dydy hynny ddim yn golygu nad oeddwn i’n ofnus.

“Rydw i’n annog pobl i gael hyfforddiant CPR a diffibrilio. Dim ond 15 munud mae’n ei gymryd i'w ddysgu ar-lein. Dwi’n teimlo bod yr hyfforddiant wedi rhoi mwy o hyder i mi yn y sefyllfa honno. “Gallwch chi ddysgu’r sgil unwaith, a bydd yn eich paratoi i achub bywyd rhywun.”

Yn ôl yn gwneud yr hyn mae’n mwynhau ei wneud, dywedodd Ian: “Alla i ddim credu fy mod i’n dal yma. Fydda i’n ddiolchgar am byth i fy ffrindiau a phawb yng Nghlwb Golff Fairwood. Doeddwn i ddim yn gwybod bod gen i unrhyw broblemau iechyd sylfaenol o’r blaen, a heb eu hymateb cyflym a chael diffib gerllaw, byddai’n stori wahanol. 

“Diolch i’r bechgyn, rydw i’n gallu chwarae golff, gwylio fy ffrindiau’n chwarae rygbi, a mwynhau bywyd. Roedd yn ymdrech tîm fawr i achub fy mywyd.”

Achub Bywyd Cymru yw’r mudiad arweiniol strategol sy’n ymroddedig i wella cyfraddau goroesi ataliad y galon yng Nghymru. Mae’r mudiad hwn yn eiriol dros CPR a diffibrilio mewn cymunedau, ac mae’n annog unigolion i ddysgu neu loywi eu sgiliau achub bywydau. 

Dywedodd Len Nokes, Cadeirydd Achub Bywyd Cymru: “Nod ein ymgyrch yw i godi ymwybyddiaeth o’r angen i fwy o bobl fod yn ymwybodol o CPR er mwyn iddyn nhw fod yn fwy hyderus i ddefnyddio’r sgiliau hynny. Felly rydyn ni’n annog pobl i gymryd rhywfaint o amser i ddysgu neu loywi eu sgiliau. 

“Rydyn ni hefyd eisiau gwneud yn siŵr bod pob person yn cael y cyfle gorau i oroesi ataliad y galon – felly mae’n hanfodol addysgu pobl i adnabod yr arwyddion, pa mor bwysig yw ffonio 999 a dechrau CPR.

“Mae gan Achub Bywyd Cymru dîm cymunedol sy’n gweithio ar y cyd ag Ambiwlans Cymru. Mae’r Cydlynwyr Cymunedol hyn yn trawsnewid CPR, a’r ffyrdd o ddod o hyd i ddiffibrilwyr ac mae’n nhw’n cefnogi cymunedau i gofrestru diffibrilwyr ar ‘The Circuit’, fel bod mwy o bobl fel Ian yn gallu goroesi ataliad y galon.”

 

Os bydd rhywun yn cael ataliad y galon, ffoniwch 999. Bydd y person sy’n derbyn yr alwad yn dweud wrthych beth i’w wneud, yn trafod sut i roi CPR, yn eich cyfeirio at y diffib cofrestredig agosaf ac yn anfon criw ambiwlans atoch ar unwaith.
Dysgwch fwy am CPR a hyfforddiant diffibrilio
Gallwch hefyd ddysgu sgiliau CPR mewn 15 munud am ddim drwy RevivR, cwrs hyfforddi rhyngweithiol ar-lein British Heart Foundation