Neidio i'r prif gynnwy

DNACPR

'Rhannu a Chynnwys - polisi clinigol Peidiwch  Dechrau Adfywio Cardio-Pwlmonaidd (DNACPR) ar gyfer oedolion yng Nghymru’
Cafodd polisi Cymru Gyfan newydd ar gyfer oedolion, 'Rhannu a Chynnwys', ei lansio ar ddydd Llun 2 Chwefror 2015 gan y Dirprwy Weinidog Iechyd. Cafodd ei ddiwygio a'i ddiweddaru yn 2017, 2020, 2022, a 2024. Gellir lawrlwytho'r ddogfen bolisi isod yn nodi'r dyddiadau fersiwn ac adolygu diweddaraf.

Mae'r polisi yn darparu fframwaith i sicrhau:

  • Bod dymuniadau claf yn cael eu parchu
  • Bod penderfyniadau yn adlewyrchu budd yr unigolyn ac nad yw’r manteision yn drech na’r beichiau
  • Bod penderfyniad DNACPR wedi’i gofnodi yn amlwg a wedi’i drosglwyddo rhwng gweithwyr iechyd proffesiynol 

Mae’r polisi a’i algorithm wedi eu llunio i sicrhau bod yr unigolyn a/neu'r rhai sydd agosaf ato yn rhan o’r penderfyniad DNACPR.
 
Rhan annatod o’r polisi hwn yw cyflwyno ffurf safonol, unedig o gofnodi penderfyniadau DNACPR oedolion er mwyn gwella cyfathrebu rhwng staff gofal iechyd ar draws pob lleoliad gofal, osgoi ymdrechion amhriodol i wneud CPR ar ddiwedd bywyd.
 
Cyflwynir cysyniad clinigol o Farwolaeth Naturiol Ragweladwy a Derbyniadwy (NAAD) ar gyfer sefyllfaoedd llai acíwt pan y gellid ystyried marwolaeth yn glinigol anochel.  

Dylai’r ysgogiad hwn i gynnal trafodaethau diwedd bywyd gyda’r claf a/neu’r teulu fod yn gyfle i esbonio’r sefyllfa o ran DNACPR.  

Ni fyddai hyn mewn unrhyw ffordd yn newid unrhyw agwedd arall o sicrhau'r gofal gorau posibl gan fod penderfyniadau DNACPR ond yn cyfeirio at CPR, nid at unrhyw elfen arall o ofal neu driniaeth yr unigolyn.
 
Wrth i’r ffurflen newydd gael ei chyflwyno bydd yn cydredeg â ffurflenni DNACPR eraill hyd nes y bydd yr hen ffurflenni’n cael eu dileu’n raddol.  Fodd bynnag, caiff pob penderfyniad DNACPR newydd ei gofnodi ar y ffurflen DNACPR Cymru Gyfan o 1 Hydref 2015 ymlaen.
 
Bydd y polisi 'byw' hwn yn cael ei addasu i newidiadau mewn amgylchiadau clinigol neu gyfreithiol wrth iddynt ymddangos. Cytunwyd ar ddiweddariadau a'u lledaenu yn 2017 a 2020.