Meddyginiaeth isgroenol yn ôl yr angen gan CARer-ADministration, ar gyfer symptomau cychwynnol cyffredin mewn pobl sy’n marw yn y cartref yng Nghymru.
Mae pecyn CARiAD yn cefnogi gofalwyr di-dâl sy’n fodlon ac sy’n gallu rhoi meddyginiaeth isgroenol di-nodwydd yn ôl yr angen ar gyfer symptomau cychwynnol cyffredin yn niwrnodau olaf pobl sy’n dymuno bod gartref pan fyddant yn marw.
Mae’r symptomau hyn yn cynnwys poen, cyfog/chwydu, aflonyddwch/cynnwrf, anadlu swnllyd/ratlo a diffyg anadl.
At ddibenion y pecyn hwn, mae’r term ‘gofalwyr di-dâl’ yn cyfeirio at aelodau o’r teulu neu ffrindiau neu ofalwyr di-dâl eraill sy’n gofalu am eu hanwylyd gartref.
Mae’n cynnwys gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n ymgymryd â rôl gofalwr di-dâl ar gyfer anwylyd.