Neidio i'r prif gynnwy

Arolwg iechyd mislif

Cwestiynau Cyffredin (FAQ)

Pa mor hir bydd yn cymryd i gwblhau’r arolwg?

Mae’r rhan fwyaf o’r cwestiynau yn rhai amlddewis (ticio blychau), a dylai gymryd rhyw 15 munud i gwblhau’r arolwg. Mae’n bwysig eich bod chi’n ateb yr holl gwestiynau nes cyrraedd diwedd yr arolwg, a’ch bod chi ddim yn nodi unrhyw enwau.

Beth fydd yn digwydd ar ôl i mi orffen?

Bydd Plant yng Nghymru a GIG Cymru yn casglu atebion pawb ac yn rhoi’r cyfan at ei gilydd. Bydd hynny’n dweud wrthyn ni beth yw barn plant a phobl ifanc am iechyd mislif yng Nghymru, a byddwn ni’n defnyddio beth rydych chi wedi’i ddweud i geisio gwella pethau i blant a phobl ifanc yng Nghymru. 

Fyddwch chi’n gwybod pwy sy’n dweud beth?

Mae’r arolwg yn ddienw, sy’n golygu na fydd neb yn gwybod beth ddwedsoch chi, a fydd neb yn gallu’ch adnabod chi. Dydyn ni ddim yn gwybod pwy ydych chi nac i ba ysgol rydych chi’n mynd. 

Sut byddwch chi’n defnyddio fy atebion?

Ein nod yw defnyddio’r canfyddiadau yma i greu ffyrdd newydd o ddysgu am iechyd mislif, fydd yn helpu pawb. 
Bydd eich data’n cael ei brosesu at ddibenion diddordeb cyfreithlon, er mwyn sicrhau bod lleisiau plant, pobl ifanc a theuluoedd yn cael eu clywed ar lefel genedlaethol; llywio polisi cenedlaethol; a gwella’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan Plant yng Nghymru a Iechyd Cyhoeddus Cymru. 

Pwy sy’n gallu helpu os bydda i’n cael trafferth?

Rydyn ni’n gwybod bod gennych chi bethau gwych i’w dweud, felly os ewch chi i drafferth, gallwch chi ofyn i oedolyn eich helpu i gwblhau’r arolwg. 

Os ydych chi’n teimlo’n bryderus, bydd siarad â rhywun am sut rydych chi’n teimlo yn helpu. Gallai hynny olygu eich athro, rhiant, gweithiwr ieuenctid neu unrhyw oedolion sydd o bosib wedi’ch helpu gyda’r arolwg.

MEIC yw’r gwasanaeth llinell gymorth cyfrinachol i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru. Ffôn 080880, tecst 84001, ar-lein: meiccymru.org/get-help/

Yn 2020 aeth GIG Cymru a Llywodraeth Cymru ati i greu adnodd ac ymgyrch oedd yn ceisio agor sgwrs ynghylch mislif a darparu gwybodaeth am iechyd mislif i bobl ifanc.

Cafodd Bloody Brilliant / Mislif Fi ei gynhyrchu trwy ei greu ar y cyd â phobl ifanc yng Nghymru a chynnal arolwg Cymru gyfan ar raddfa fawr. Bu’r arolwg yn casglu barn, dealltwriaeth ac agweddau pob person ifanc, p’un a ydynt yn cael mislif ai peidio.  

Mae GIG Cymru a Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Plant yng Nghymru i gyflawni cylch arall o waith ymchwil. Plant yng Nghymru yw’r corff trosfwaol cenedlaethol ar gyfer sefydliadau ac unigolion sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd yng Nghymru. Ein nod yw defnyddio’r canfyddiadau hyn i greu a diweddaru adnoddau a allai ddileu rhwystrau a stigma, ochr yn ochr â chynyddu ymwybyddiaeth ac addysgu ynghylch iechyd mislif. 

Mae ein harolwg ar agor i bobl ifanc rhwng 11 ac 16+ oed, ond bydden ni’n croesawu sylwadau gan blant ifancach os oes ganddyn nhw ddiddordeb.

Bydden ni’n gwerthfawrogi eich cefnogaeth i gynorthwyo pobl ifanc i gwblhau’r arolwg. Mae hyn yn arbennig o wir yn achos pobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol, rhai sydd angen gorsaf waith ddigidol, neu rai sy’n syml angen help llaw. Mae’r rhan fwyaf o’r cwestiynau yn rhai amlddewis (blychau ticio), a dylai’r arolwg gymryd rhyw 15 munud i’w gwblhau. 

Byddwn ni (Iechyd Cyhoeddus Cymru a Plant yng Nghymru) yn cadw’r atebion yn ddiogel. Gofynnwn i chi beidio â chaniatáu cyflwyno gwybodaeth bersonol, fel enwau. 

Mae’n bwysig ein bod ni’n casglu cynifer o safbwyntiau â phosib gan bobl ifanc o bob rhywedd, er mwyn i Mislif Fi fedru cefnogi’r rhai fydd yn cael mislif, yn ogystal â’r rhai fydd yn eu cefnogi, a deall yn llawn unrhyw rwystrau o ran rhywedd a allai fod yn gwneud stigma’n waeth. Rhaid sicrhau na fydd cenedlaethau o bobl ifanc yn dioddef yn ddistaw oherwydd eu bod yn ofni codi llais neu oherwydd diffyg dealltwriaeth o’r hyn sy’n normal yng nghyswllt mislif.  

Os bydd gennych chi unrhyw gwestiynau am yr uchod, neu os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y prosiect yn gyffredinol, cysylltwch â comms@childreninwales.org.uk