Mae Llywodraeth Cymru yn credu’n gryf y dylai pobl Cymru gael gofal diogel o ansawdd da gan GIG Cymru sy’n seiliedig ar eu hanghenion unigol. Er mwyn helpu i gyflawni hyn, mae 'datganiadau ansawdd' yn cael eu datblygu i osod disgwyliadau clir ynghylch sut y dylid darparu'r gofal hwnnw.
Mae datganiad ansawdd yn cael ei ddatblygu ar gyfer gofal mamolaeth a newyddenedigol yng Nghymru i greu darlun o 'sut olwg sydd ar yr hyn sy’n dda'. Ategir hyn gan wybodaeth fanwl i GIG Cymru am sut i drefnu gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol i helpu i gyrraedd y safon hon a gwneud yn siŵr bod gwasanaethau’n diwallu anghenion teuluoedd.
Er mwyn helpu i ddatblygu'r datganiad ansawdd, hoffem glywed gan bobl am sut olwg sydd ar ofal da yn eu barn nhw. Mae arolwg byr wedi'i ddatblygu y gellir ei gwblhau os hoffech rannu eich barn. Dylai gymryd tua 10 munud i'w gwblhau. Mae’r cwestiynau wedi’u hysgrifennu gan ystyried menywod, ond byddem hefyd yn croesawu ymatebion gan bartneriaid a pherthnasau eraill.
Rydym hefyd eisiau gwella sut y gall teuluoedd yng Nghymru rannu adborth am eu gofal mamolaeth a newyddenedigol, a gwneud yn siŵr bod byrddau iechyd yn defnyddio’r wybodaeth hon i wella gwasanaethau. Mae set o gwestiynau wedi'u cynnwys i glywed eich barn am sut y gellir gwella prosesau ymgysylltu â theuluoedd.
Os oes gennych chi gwestiynau neu bryderon am ofal a gawsoch yn y gorffennol neu rydych yn ei dderbyn ar hyn o bryd, cysylltwch â bwrdd iechyd eich ardal er mwyn iddynt allu helpu.
Bydd y Rhwydwaith yn casglu ac yn dadansoddi'r holl wybodaeth a dderbynnir. Bydd y themâu a nodwyd i gefnogi'r datganiad ansawdd yn cael eu rhannu â Llywodraeth Cymru ond ni fyddant yn cynnwys gwybodaeth y gellir ei hadnabod.