Neidio i'r prif gynnwy

Gwella Ansawdd a Diogelwch gyda GIG Cymru

O 1 Ebrill 2024, bydd Gwelliant Cymru yn ymuno’n ffurfiol â Gweithrediaeth GIG Cymru i ffurfio’r gyfarwyddiaeth Ansawdd, Diogelwch a Gwella. Mae hyn yn dilyn blwyddyn o bontio a gweithredu gyda Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth. 

Mae ein tîm fel rhan o’r gyfarwyddiaeth Ansawdd, Diogelwch a Gwella, yn gweithio ochr yn ochr â’n cydweithwyr yng Ngweithrediaeth GIG Cymru, Llywodraeth Cymru, a phartneriaid ehangach y GIG i gefnogi’r gwaith o greu system iechyd a gofal o’r ansawdd gorau i Gymru fel bod pawb yn gallu cael mynediad at wasanaethau diogel a gofal effeithiol ac effeithlon, yn y lle iawn ac ar yr amser iawn.  

Dywedodd Dominique Bird, Dirprwy Gyfarwyddwr a Phennaeth Gwella Ansawdd: “Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi bod yn trosglwyddo i Weithrediaeth GIG Cymru ac rydym yn gyffrous i ymuno â’n cydweithwyr yn ffurfiol. Er bod ein trefniadau lletya wedi newid, mae’r gwaith rydym yn ei wneud yn aros yr un fath, wedi’i gryfhau drwy fod yn rhan o Weithrediaeth GIG Cymru”. 

Mae ein cyfarwyddiaeth newydd yn gweithio gyda phartneriaid i drosi’r cyfeiriad polisi a’r safonau a osodwyd gan Lywodraeth Cymru yn gamau gweithredu, a fydd yn gwella ansawdd a diogelwch gofal iechyd yng Nghymru. Mae ein tîm gwella, a elwir yn Gwelliant Cymru, yn grymuso, yn ymgorffori ac yn dyrchafu gwelliant ar draws y GIG, sy’n darparu cymorth rhaglen wella Cymru gyfan i gyflawni blaenoriaethau diogelwch. 

Ein meysydd ffocws Cymru gyfan presennol yw: 

Gallwch ddysgu mwy am Weithrediaeth GIG Cymru yma.